Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi eu hamserlen ar gyfer y gwasanaethau trên ychwanegol y maen nhw am eu cyflwyno yn y blynyddoedd nesaf.
Bydd gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno ar gledrau Cymru a’r Gororau dros y tair blynedd nesaf.
O ganlyniad i bandemig y coronafeirws, nid oedd modd cadw at rai dyddiadau gwreiddiol, a bennwyd yn 2018, meddai Tarfnidiaeth Cymru.
Maen nhw yn dweud bod y pandemig yn effeithio ar gadwyni cyflenwi, darparu’r seilwaith angenrheidiol i weithredu gwasanaethau newydd a’r gallu i hyfforddi criwiau trên newydd.
Mae’r gwasanaethau trên ychwanegol yn cynnwys:
- Caerdydd i Cheltenham (un trên cyson yr awr i bob gorsaf) – Bydd ar waith erbyn Rhagfyr 2022 (yn ôl y trefniant gwreiddiol)
- Rheilffordd Calon Cymru (un gwasanaeth ychwanegol y dydd i bob gorsaf) – bydd ar waith erbyn mis Rhagfyr 2022 (yn ôl y trefniant gwreiddiol). (Hefyd, mae Trafnidiaeth Cymru yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno trenau nos nos rhwng Amwythig a Llandrindod, a rhwng Abertawe a Llanymddyfri, yn amodol ar gytundeb â Network Rail)
- Lerpwl i Landudno (gwasanaeth newydd bob awr) – Bydd ar waith erbyn Rhagfyr 2023 (diwygiedig)
- Estyniad i wasanaeth presennol Maes Awyr Manceinion i Landudno – Bydd ar waith erbyn Rhagfyr 2023 (wedi’i ddiwygio)
- Aberystwyth i’r Amwythig (un trên cyson pob awr i bob gorsaf) – Bydd ar waith erbyn Mai 2024 (wedi’i ddiwygio)
- Gwasanaeth bob awr rhwng Lerpwl a’r Amwythig – Bydd ar waith erbyn mis Rhagfyr 2024
Hefyd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi llwyddo i brynu 25 o gerbydau ‘Mark 4 Intercity’ arall ynghyd â phum trelar fan gyrru.
Beio’r pandemig
“Nid yw’n unigryw i ni yng Nghymru, ond mae’r pandemig yn parhau i gael effaith enfawr ar bob un ohonom ac rwy’n falch o’r ffordd y gwnaethom gadw gweithwyr allweddol i symud yn ystod y dyddiau tywyllaf,” meddai Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea.
“Wrth inni symud ymlaen yn hyderus, rydym yn dechrau gweld patrymau teithio ôl-bandemig yn ffurfio.
“Mae teithio hamdden eisoes yn dychwelyd yn gyflym, ond mae’n debygol y bydd yn cymryd mwy o amser i draffig cymudo ddychwelyd, gan fod llawer ohonom yn addasu i weithio’n hyblyg.
“Efallai y bydd y patrymau teithio newydd hyn yn ein helpu i lyfnhau’r galw am deithio dros gyfnodau amser ehangach a helpu i leddfu rhai o’n llifoedd traddodiadol sy’n dueddol o fod yn brysur iawn.
“Ers y cyhoeddiadau gwreiddiol yn 2018, rydym wedi gweithio’n galed ac yn dechrau gweld y gwaith hwnnw’n dwyn ffrwyth – gyda’r trenau Pacer cyfan wedi’u heithrio’n gyfan gwbl o’r gwasanaeth a threnau newydd yn dechrau cael eu profi o amgylch Gogledd Cymru.
“Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi effeithio ar ein gallu i hyfforddi criwiau newydd ac wedi tarfu ar ein cadwyn gyflenwi mewn sawl ffordd.
“Er gwaethaf hyn, byddwn yn darparu rhai o’r gwasanaethau ychwanegol y gwnaethom ymrwymo iddynt nôl yn 2018, ond mae angen diwygio ychydig arnynt.
“At ei gilydd, bydd yr holl wasanaethau ychwanegol a ymrwymwyd iddynt yn 2018, dros 60 o wasanaethau newydd, yn cael eu hychwanegu at yr amserlen dros y blynyddoedd i ddod.
“Rydym yn parhau i fod yn hyderus y byddwn yn cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, gan gynnwys mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid er budd y cymunedau ledled Cymru a’r ffiniau.”