Mae sioe CIC, sy’n gyfres chwaraeon i blant ar S4C yn dychwelyd yr wythnos nesaf gyda chyflwynydd newydd – y chwaraewr rygbi, Lloyd Lewis.

Bydd y chwaraewr sydd wedi cynrychioli tîm saith bob ochr Cymru, yn cyd-gyflwyno’r rhaglen gyda Heledd Anna, ac yn cymryd lle’r cyn-bêl-droediwr, Owain Tudur Jones.

Drwy gydol y gyfres, fe fyddan nhw’n edrych ar bob math o gampau, ac yn holi rhai o athletwyr enwocaf Cymru, fel Aled Siôn Davies ac Owain Doull.

Dyma fydd y tro cyntaf i Lloyd gyflwyno ar y teledu, ar ôl iddo ddod yn wyneb cyfarwydd ar blatfform cyfryngau cymdeithasol Hansh yn ddiweddar.

Wrth y llyw

“Nes i really mwynhau’r ffilmio,” meddai Lloyd wrth golwg360.

“Roedd y criw i gyd yn class, ac yn hawdd i weithio gyda.

“Doeddwn i ddim wir yn meddwl amdano fel gweithio, achos bod e’n gymaint o hwyl.

“Roedd yn brofiad da i fi.”

“Dangos y cyfleoedd”

Daw Lloyd yn wreiddiol o Gwmbrân, ac mae’n credu ei bod hi’n hanfodol cael lleisiau Cymraeg o dde-ddwyrain Cymru ar y teledu, yn ogystal â phersonoliaethau o leiafrifoedd ethnig.

“Mae yn hollol bwysig,” meddai.

“O ran yr ardal, yn enwedig gyda’r acen ac ati, mae e’n gwneud e’n fwy perthnasol i blant o dde Cymru.

“Mae e mor bwysig hefyd i blant gael esiamplau BAME ar y teledu, fel bod pobol yn gallu cysylltu â nhw a chael eu hysbrydoli.

“Mae hynny jyst yn dangos y cyfleoedd sy’n bosib iddyn nhw eu cael.”

“Llawn hwyl!”

Gyda CIC yn ailddechrau ar 8 Hydref, mae Lloyd yn dweud y bydd yna ddigon o sbort i gael ar y rhaglen, ac yn gobeithio y bydd yn agor drysau iddo.

“Yn amlwg mae’n sioe i blant, felly roedd yna lot o stwff ysgafn,” meddai.

“Roedden ni’n gwneud dipyn o sgetsys, sy’n ail-greu pethau gwirion sydd wedi digwydd mewn chwaraeon.

“Maen nhw jyst yn llawn hwyl!

“Felly dw i’n edrych ymlaen at weld y rhaglen, a gobeithio bydd yna fwy o gyfleoedd yn dod ar gefn hynny.”