Mae S4C wedi ymddiheuro ar ôl i dân yn Llundain darfu ar eu lluniau ar Freeview neithiwr (nos Sadwrn, Medi 25).

Mewn datganiad, dywed y sianel fod yna dân mewn canolfan ddosbarthu, gan olygu bod eu lluniau ar lwyfan Freeview wedi’u colli am ran fwya’r noson o tua 6.30yh.

Er gwaetha’r trafferthion, doedd gwasanaethau Sky, Freesat, Virgin Media, S4C Clic na BBC iPlayer ddim wedi cael eu heffeithio.

Ond fe effeithiodd ar wasanaethau’r BBC, ITV, C4, C5, Paramount ac E Music.

“Mae S4C yn ymddiheuro i bawb fethodd weld eu hoff raglenni nos Sadwrn,” meddai llefarydd mewn datganiad.

Mae’r sianel wedi ymddiheuro eto heddiw (dydd Sul, Medi 26), wrth i’w problemau barhau.

  • Diweddariad: Mae S4C yn dweud bod “darlledu yn ôl ar Freeview erbyn hyn”.