Mae Alan Lancaster, basydd y band roc Status Quo, wedi marw’n 72 oed.

Roedd e’n un o aelodau gwreiddiol y band a gafodd ei sefydlu yn y 1960au ac a gafodd cryn lwyddiant yn rhyngwladol drwy gydol y 1960au a’r 1970au.

Ymhlith eu caneuon enwocaf mae ‘Rockin’ All Over The World’ a ‘Whatever You Want’.

Yn ôl Francis Rossi, canwr y band, roedd Lancaster yn rhan “hanfodol” o’r band.

Cafodd ei eni yn Peckham yn ne Llundain yn 1949, ac fe fu’n teithio gyda’r band tan 2014.

Mae lle i gredu y bu’n byw yn Awstralia ers hynny.

Fe fu’n perfformio gyda The Bombers a The Party Boys yn ystod ei yrfa hefyd.

“Roedden ni’n ffrindiau ac yn gydweithwyr am gynifer o flynyddoedd gan gael cryn dipyn o lwyddiant gyda’n gilydd fel y Frantic Four ynghyd â Rick Parfitt a John Coghlan,” meddai Francis Rossi wrth dalu teyrnged iddo.

“Roedd Alan yn rhan hanfodol o sŵn y band a llwyddiant ysgubol Status Quo yn ystod y 60au a’r 70au.”

Gyrfa

Dechreuodd Alan Lancaster a Francis Rossi berfformio gyda’i gilydd yn y 1960au fel aelodau o band oedd â sawl enw cyn iddyn nhw ddod yn Status Quo.

Cyrhaeddodd y band frig y siartiau albyms Prydeinig bedair gwaith.

Mae marwolaeth Alan Lancaster wedi cael ei disgrifio fel “newyddion trist” gan Simon Porter, rheolwr y band.

“Roedd yn bleser pur gallu dod â’r lein-yp gwreiddiol yn ôl at ei gilydd ar gyfer dwy daith y gwerthwyd eu holl docynnau yn 2013/14 ac i roi gwaddol derfynol ac atgofion hirdymor i ffans y Status Quo Frantic Four,” meddai.

“Er nad oedd iechyd Alan ar ei orau bryd hynny, hyd yn oed, fe ddaeth e drwy’r teithiau’n benderfynol ac roedd hi’n bleser cael gweithio gyda fe.”