Mae’r canwr R&B R Kelly wedi’i gael yn euog o nifer o droseddau’n ymwneud a cham-drin menywod a phlant.
Roedd wedi osgoi cyfrifoldeb am y troseddau ers degawdau yn dilyn nifer o honiadau o gamymddwyn yn erbyn menywod ifanc a phlant.
Cafwyd R Kelly yn euog gan y rheithgor ar yr ail ddiwrnod o ystyried eu dyfarniad.
Roedd y cyhuddiadau’n seiliedig ar y ddadl bod rheolwyr a staff oedd wedi helpu’r canwr i gwrdd â merched ifanc – a’u cadw nhw’n dawel – yn gyfystyr a masnachu rhyw.
Roedd nifer o’r rhai oedd wedi ei gyhuddo wedi rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos.
Daeth honiadau am ei berthynas amhriodol gyda phlant dan oed i sylw yn dilyn priodas anghyfreithlon R Kelly a’r gantores Aaliyah yn 1994 pan oedd hi’n 15 oed.
Yn 2002 cafodd ei arestio a’i gyhuddo o recordio ei hun yn cam-drin merch 14 oed yn rhywiol.
Dim ond yn ddiweddar, yn dilyn yr ymgyrch #MeToo, y cafodd ei ddioddefwyr honedig eu cymryd o ddifrif.
Yn ystod yr achos, roedd nifer ohonyn nhw wedi rhoi tystiolaeth ond heb ddefnyddio eu henwau iawn er mwyn diogelu eu preifatrwydd ac osgoi unrhyw sylw posib gan gefnogwyr y canwr.
Roedd yr amddiffyniad wedi honni bod y rhai oedd yn ei gyhuddo yn “groupies” neu’n “stelcwyr”.
Roedd Deveraux Cannick, ar ran yr amddiffyniad, wedi gofyn pam fod y dioddefwyr honedig wedi aros mewn perthynas gyda R Kelly os oedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu hecsbloetio.
“Fe wnaethoch chi ddewis,” meddai wrth un fenyw oedd yn rhoi tystiolaeth gan ychwanegu, “roeddech chi wedi cymryd rhan o’ch gwirfodd.”
Mae R Kelly, wedi cael ei gadw yn y carchar, heb fechnïaeth, ers 2019. Cafodd yr achos ei ohirio oherwydd y pandemig a newidiadau i dîm cyfreithiol y canwr.