Mae ffilm Calan Gaeaf y rhaglen blant Deian a Loli am gael ei dangos mewn sinemâu ledled Cymru.
Bydd dangosiadau o ‘Deian a Loli a Dygwyl y Meirw’ i’w gweld ar ddydd Sadwrn, 23 Hydref, yn sinemâu Chapter (Caerdydd), Pontio (Bangor), Canolfan Celfyddydau (Aberystwyth), a’r Egin (Caerfyrddin).
Ar ben hynny, bydd dangosiad arbennig yng nghanolfan Pontio ar nos Wener, 22 Hydref, gyda sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r cast ar ôl hynny.
Ers darlledu am y tro cyntaf yn 2016, mae Deian a Loli wedi dod yn un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd ar S4C, ac mae wedi ennill gwobr BAFTA Cymru ddwywaith.
Nid yn unig bod y rhaglen yn boblogaidd i wylwyr, ond i actorion ifanc hefyd, gyda dros 500 o blant yn ceisio am y prif rannau’r llynedd.
“Cyntaf i’r felin!”
Mae Sioned Geraint, Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C, yn disgwyl tipyn o gyffro o amgylch y ffilm.
“Bydd disgwyl y bydd cyffro a galw mawr am docynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn,” meddai.
“Pan gynhaliwyd dangosiadau tebyg o’r rhaglenni yn y gorffennol, diflannodd cannoedd o docynnau o fewn ychydig oriau.
“Felly cyntaf i’r felin wrth archebu!”
Dangosiadau
Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar yr amseroedd hyn ar ddydd Sadwrn, 23 Hydref:
- Pontio Bangor – 10:30, 13:00 a 15:30
- Canolfan Celfyddydau Aberystwyth – 10:00, 11:30 a 13:00
- Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin – 10:00, 11:00, 13:00 a 14:00
- Chapter Caerdydd – 11:00, 12:15, 13:30 a 14:45
Mae’r tocynnau rhad ac am ddim yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd am 10:00 ddydd Gwener (1 Hydref) yn uniongyrchol i wefannau’r sinemâu.
Ar ben hynny, bydd y ffilm yn cael ei darlledu’n ddiweddarach ar S4C, ar ddydd Iau, 28 Hydref, am 19:25.