Mae Menter Iaith Abertawe wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda siop recordiau adnabyddus yn y ddinas wrth iddyn nhw gynnal gigs eto wedi’r pandemig.

Bydd tocynnau ar gyfer sawl gig sydd i ddod dros y misoedd nesaf ar gael i’w prynu yn siop recordiau Derricks.

Agorodd y siop wreiddiol ym Mhort Talbot yn 1956, gan werthu recordiau a chyfarpar cerddoriaeth.

Daeth ail siop i’r dref rai blynyddoedd yn ddiweddarach, a honno’n cael ei hystyried yn siop pop/roc gyntaf Cymru.

Ar ôl i’r perchennog farw yn 1985, symudodd y siop i Abertawe lle y bu ers hynny.

Y bartneriaeth

“Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod tocynnau i’n holl ddigwyddiadau cerddorol yn Nhŷ Tawe hefyd nawr ar gael i brynu trwy Derricks Swansea!” meddai’r Fenter ar eu tudalen Facebook.

“Mae Derricks wedi bod yn rhan annatod o fywyd Abertawe am dros 50 mlynedd felly rydym yn falch iawn o’u cefnogaeth.

“Galwch draw i brynu tocyn ac efallai record neu ddau!”

Gigs

Mae’r Fenter Iaith eisoes wedi cyhoeddi nifer o gigs ar gyfer mis Hydref a Thachwedd.

Ar Hydref 15, bydd Llwybr Llaethog a Pys Melyn yn perfformio yng nghanolfan Gymraeg y ddinas a bydd y Fenter yn rhan o Ŵyl Ymylol Abertawe yr wythnos ganlynol ar Hydref 22 a 23.

Fis Tachwedd, fe fydd Georgia Ruth a Gareth Bonello / The Gentle Good yn Nhŷ Tawe.

Bydd y Fenter hefyd yn cyhoeddi nifer o gigs eraill yn fuan fel rhan o “Raglen ail-lansio Tŷ Tawe”, a’r gobaith yw gallu cynnal nifer o’r digwyddiadau yn y brif neuadd yn hytrach na’r bar bach fel sydd wedi bod yn digwydd ers i’r ganolfan agor ei drysau eto.

“Rwy’ wedi bod yn derbyn ’mail out’ tocynnau Derricks sy’n rhestru’r holl docynnau sydd ar werth yn yr ardal ers oesoedd,” meddai Tomos Jones, Prif Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe wrth golwg360.

“Felly cysylltais i weld os byddai’n bosib gwerthu tocynnau Tŷ Tawe trwyddyn nhw hefyd.

Galwais i draw wedyn i gael sgwrs, ac roedd yn hawdd iawn i sefydlu.

“Rwy’n e-bostio manylion y gigs draw, ac wedyn maen nhw’n ychwanegu at y listings.

“Roeddwn yn meddwl y byddai’n ffordd dda o godi ymwybyddiaeth pobol sydd ddim yn dueddol o ddilyn cyfrifon y Fenter, ac yn y blaen, fod gigs yn digwydd eto yn Nhŷ Tawe.”