Mae gweithwyr o gefndiroedd amrywiol yn gadael y diwydiannau radio a theledu wedi’r pandemig, yn ôl ymchwil gan Ofcom.
Am y tro cyntaf, mae mwy o weithwyr yn gadael y sectorau nag sy’n ymuno, ac mae hynny’n arbennig o wir am fenywod, yn ôl Ofcom, gyda nifer o ddarlledwyr yn cael trafferth dal eu gafael ar weithwyr.
Mae’r data ar gyfer amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal yn y diwydiant dros y bum mlynedd ddiwethaf yn awgrymu bod cynrychiolaeth o fenywod yn y gweithlu wedi aros yn gyson, ar y cyfan, ers 2017/18.
Fodd bynnag, roedd cyfran uwch o fenywod yn gadael y sectorau radio a theledu yn 2020/21 na’r gyfran o ddynion adawodd.
Mae’r rhesymau sy’n cael eu crybwyll yn yr adroddiad yn cynnwys y pandemig a’i “effaith ddigymesur” ar grwpiau megis mamau sy’n gweithio.
Fel ymateb i’r canfyddiadau, mae Ofcom yn galw ar ddarlledwyr i ganolbwyntio ar ddal gafael a gwneud cynnydd wrth gyflogi talent amrywiol mewn swyddi uchel.
Amlyga’r adroddiad y diffyg amrywiaeth ymysg gweithwyr sy’n gwneud y penderfyniadau ar y top, gyda phobol anabl yn cyfrif am 6% o’r uwch-reolwyr.
“Tangynrychioli”
Dywedodd Vicky Cook, cyfarwyddwr polisi darlledu Ofcom, fod “darlledwyr wedi gwneud cynnydd wrth gyflogi ystod fwy eang o dalent”.
“Er enghraifft, mae yna ddwywaith y nifer o bobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn gweithio yn y sector radio nawr o gymharu â thair blynedd yn ôl,” meddai.
“Ond am y tro cyntaf, mae mwy o bobol yn gadael y diwydiant nag sy’n ymuno, yn arbennig menywod, tra bod pobol anabl dal i gael eu tangynrychioli’n sylweddol. Ac oherwydd bod cwmnïau wedi canolbwyntio ar recriwtio staff ar lefel mynediad, does yna dal ddim digon o dalent amrywiol mewn swyddi uchel.”