Mae tad Britney Spears wedi’i atal o’i rôl yn goruchwylio ystâd y seren bop.

Mae llys yn yr Unol Daleithiau wedi clywed y bydd y trefniant, oedd yn ei ganiatáu i reoli bywyd ei ferch i bob pwrpas, yn dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd barnwr yn Los Angeles nad oedd Jamie Spears yn parhau i fod yn gyfrifol am arian ei ferch bellach.

Roedd wedi dal y rôl ers 2008, pan ddaeth penderfyniad nad oedd Britney Spears, sydd bellach yn 39 oed, yn gallu gofalu amdani hi ei hun ar ôl dioddef cyfres o broblemau meddyliol.

Roedd hi wedi bod yn pledio gyda’i thad ers rhai blynyddoedd i ddod â’r trefniant i ben.

Cafodd Jamie Spears, 69, orchymyn i roi’r dogfennau perthnasol i John Zabel, cyfrifydd cyhoeddus sydd wedi’i benodi’n geidwad dros dro ar ystâd $60m (£45m) y gantores tan 31 Rhagfyr.

Roedd tîm cyfreithiol Jamie Spears wedi dadlau’n rymus yn erbyn ei waharddiad, gan honni mai dod â’r trefniant i ben oedd y peth cywir i’w wneud.

Fodd bynnag ar ôl clywed gan y ddwy ochr, dywedodd y barnwr Brenda Penny fod Jamie Spears yn cael ei wahardd o’r rôl er lles Britney Spears.

Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan aelodau o fudiad #FreeBritney oedd wedi ymgasglu y tu allan i’r Los Angeles Superior Court.

‘Penderfyniad hawdd’

Yn ystod gwrandawiad ddoe (dydd Mercher, Medi 29), dywedodd Mathew S Rosengart, cyfreithiwr newydd Britney Spears, fod “rhaid ei atal heddiw, nid am fod cyfreithiwr yn dadlau dros hynny, ond am fod Britney Spears yn pledio amdano”.

“Weithiau, mae gofyn i farnwyr wneud penderfyniadau anodd iawn,” meddai.

“Nid yw hwn yn benderfyniad o’r fath.

“Nid yw hyn yn achos o’r fath.

“Mae hwn yn benderfyniad hawdd iawn.”

Dychwelyd i berfformio?

Mae Britney Spears, sydd wedi gwerthu bron i 150m o recordiau ledled y byd, yn parhau i fod yn un o sêr mwya’r byd pop, ond dydy hi ddim wedi perfformio’n fyw ers 2018.

Roedd hi wedi dweud na fyddai’n perfformio eto tra bod ei thad yn dal i reoli ei hystâd, felly mae’n bosib y daw hi’n ôl i berfformio.

Roedd hi’n briod â’r dawnsiwr Kevin Federline o 2004-2007, sy’n dad i’w meibion Sean Preston, 16, a Jayden, 15 oed.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y gantores ei bod wedi dyweddïo â’r actor 27 oed a’r arbenigwr ffitrwydd Sam Asghari.