Bydd rhaglen ddogfen newydd yn camu mewn i fyd Dylan Fôn Thomas o Chwilog a’i “berthynas arbennig” gyda’i ofalwr, Titw (Graham Thomas) wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Ynys Enlli, gan archwilio’r prinder gofalwyr yng Nghymru.

Mae Dylan yn un o ryw 5,000 o bobol yng Nghymru sy’n byw gyda Dystonia, cyflwr niwrolegol sy’n effeithio symudiadau.

Mae Dystonia yn effeithio ar ei asgwrn cefn, sy’n golygu ei fod yn cael trafferth cerdded ac yn dioddef sbasm dwys sy’n effeithio ar ei gorff cyfan.

Ers i’r Dystonia daro Dylan Fôn Thomas, 40, yn sydyn tua wyth mlynedd yn ôl, mae e wedi bod yn byw gyda’i rieni, Sandra a Gwilym, ac mae angen gofal dwys arno.

Fel rhan o raglen DRYCH: Dylan a Titw i Ben Draw’r Byd, bydd Titw yn ceisio gwireddu breuddwyd Dylan Fôn Thomas o gyrraedd Ynys Enlli.

Prinder gofalwyr

Yn ôl cynhyrchydd y rhaglen, “calon a chanol” y rhaglen yw’r berthynas rhwng y ddau, ac mae adrodd stori am ofalwr yn “amserol iawn” o ystyried prinder gofalwyr.

“Roedd e’n brofiad eithaf ysbrydoledig, ac emosiynol a heriol i ffilmio elfennau o’r rhaglen,” meddai Gwion Hallam o gwmni Ffilmiau TwmTwm wrth golwg360.

“Roedd cael dod i adnabod Dylan a Titw ei ofalwr yn brofiad arbennig, mae hi’n fraint cael dod i weld rhywbeth mor unigryw.

“Rydyn ni gyd yn meddwl ein bod ni’n gwybod rhywbeth, efallai, am ofalu am berson llawn amser ond does dim syniad gyda ni mewn gwirionedd.

“Dyw e ddim yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n ei weld, felly roedd e’n fraint ac yn gyfrifoldeb wrth i Dylan a’r teulu, a Titw, ymddiried ynom ni fel cwmni i wneud y rhaglen, a oedd yn benodol yn mynd i agor y drws ar eu bywydau nhw.

“O’r cychwyn, roedd Dylan a’r teulu a Titw yn awyddus i ddangos go iawn sut beth yw eu bywydau nhw – yr heriau, y tynnu coes, y chwerthin ond y rhwystredigaeth a’r dyddiau tywyll hefyd.”

‘Perthynas arbennig’

Y berthynas rhwng Dylan Fôn Thomas a’i ofalwr yw prif ganolbwynt y rhaglen, ac elfen ychwanegol yw’r gobaith am fynd ar daith i Enlli, meddai Gwion Hallam.

“Mae hi’n rhaglen am Dystonia, ond ar y llaw arall dydi hi ddim yn rhaglen am Dystonia o gwbl mewn rhai ffyrdd. Mae Dystonia’n gyflwr rhy gymhleth a rhy amrywiol i un rhaglen allu gwneud cyfiawnder â’r cyflwr.

“Mae hi’n rhaglen am y berthynas arbennig yma sy’n bodoli, ac wedi tyfu, rhwng Dylan a Titw.

“Oni bai am y Dystonia, wnaeth daro Dylan ryw wyth mlynedd yn ôl, fyddai llwybrau Titw a Dylan heb groesi o gwbl, am wn i, er eu bod nhw ddim yn byw yn bell iawn oddi wrth ei gilydd.

“Maen nhw’n wahanol iawn mewn lot o ffyrdd, mae eu hamgylchiadau nhw’n wahanol iawn, ffrindiau gwahanol iawn, diddordebau gwahanol iawn heblaw am gefnogi Liverpool FC. Ond mae hyn wedi golygu eu bod nhw’n treulio oriau ac oriau, ac wythnosau, a blynyddoedd yng nghwmni ei gilydd.

“Nod y rhaglen oedd dangos y berthynas yna, a’r elfen ychwanegol yma o sut oedd Titw’n gobeithio helpu i wireddu breuddwyd Dylan o fynd i Ynys Enlli.

“Dyna’r daith mewn gwirionedd, boed Dylan yn llwyddo i fynd i Enlli ai peidio…”

‘Gwireddu breuddwydion’

Yn sgil prinder gofalwyr, yn enwedig gofalwyr sy’n ddynion, mae’r rhaglen yn un “amserol iawn”.

“Mae yna brinder gofalwyr, wastad prinder dw i’n credu, achos dw i ddim yn meddwl eu bod nhw cael y parch na’r cyflog ddylen nhw yn genedlaethol,” meddai Gwion Hallam.

“Mae hi’n swydd yn nhyb lot o bobol sy’n ddiddiolch ac yn anodd, dyw hi ddim yn swydd all pawb ei gwneud o bell ffordd. Mae hi’n gofyn am berson arbennig.

“Mae gofalwyr sy’n ddynion yn brin, yn brinnach ofnadwy, mae hynny’n rhan o’r rhaglen.

“Mae Graham yn gofalu ers blynyddoedd, galwedigaeth ydi hi mewn ffordd. Mae hi’n fywoliaeth hefyd ond mae hi’n gofyn am berson arbennig o ran natur a phersonoliaeth a pharodrwydd i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod Dylan yn cael y gofal iawn, y bywyd llawnaf posib.

“Mae’n lot mwy na dim ond helpu fe i wneud pethau syml, gwneud bwyd, molchi, gwisgo, mae’n helpu gyda pethau fel yna ond mae e hefyd yn helpu Dylan i wireddu breuddwydion a dyna un o’r pethau sy’n her i Titw a Dylan a’r teulu yn y rhaglen yma – yr her o fynd i Ynys Enlli.”

Cwestiynau

Mae cyrraedd Ynys Enlli “yn her i bawb”, ac wedi bod felly dros y canrifoedd, meddai Gwion Hallam wrth drafod y cwestiynau sy’n codi wrth feddwl a fyddai’n bosib i Dylan Fôn Thomas ymweld ag Enlli.

“Dim ond ar ambell i ddiwrnod mae’r cwch yn mynd, mae’r Swnt, sef yr ychydig dir rhwng y tir mawr ac Enlli, yn ddarn peryglus o fôr,” meddai.

“Mae hi’n bosib mynd wrth gwrs, i’r rhan fwyaf o bobol. Ond i Dylan yn ei gyflwr, mae e bron o hyd angen hoist i fynd mewn i lefydd anodd ac weithiau mae e’n cael seizures ofnadwy o ddrwg,” meddai.

“Petai hynny’n digwydd ar Enlli neu ar gwch byddai’n her fawr, felly dyna rai o’r cwestiynau roedd rhaid meddwl amdanyn nhw o ddifri, a delio gyda nhw, a threfnu os oedd unrhyw obaith o gael Dylan draw i Ynys Enlli.”

  • DRYCH: Dylan a Titw i Ben Draw’r Byd ar S4C nos Sul, 3 Hydref am 9yh.