Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd 2022, a fydd yn cael ei chynnal yn Ninbych.
Cafodd y testunau eu dewis gan banelau lleol a gwirfoddolwyr o Sir Ddinbych, ac mae’r rhestr yn cynnwys amrywiaeth o gystadlaethau llwyfan a chyfansoddi i blant a phobol ifanc dan 25 oed.
Gobaith yr Urdd yw cynnal Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych yn ystod hanner tymor y Sulgwyn flwyddyn nesaf, sef blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd.
O ganlyniad i Covid-19, cafodd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ei gohirio yn 2020 ac yn 2021, a chynhaliwyd Eisteddfod T yn ei lle.
Eleni, cafodd dros 13,000 o blant a phobol ifanc eu denu i gystadlu mewn 134 o gystadlaethau fel rhan o Eisteddfod T.
Bydd modd cofrestru i gystadlu o 1 Rhagfyr 2021 hyd 14 Chwefror 2022, a bydd cystadlaethau amgen Rhestr T yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn yn dilyn llwyddiant gŵyl ddigidol Eisteddfod T.
Gwobrwyo Enillwyr 2020
Yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 18 Hydref, bydd Eisteddfod yr Urdd yn gwobrwyo holl waith Cyfansoddi a Chreu buddugol 2020.
Fel rhan o wythnos arbennig ar blatfformau digidol yr Urdd, ac ar Heno, S4C a BBC Radio Cymru a Golwg360, bydd y gweithiau buddugol yn cael eu dathlu a bydd enwau enillwyr cystadlaethau’r Gadair, y Goron, y Fedal Ddrama, a’r Fedal Gyfansoddi’n cael eu cyhoeddi.
Bydd y Prif Lenor yn derbyn Coron wedi’i chreu gan y cerflunydd Mared Davies, a’r Prifardd yn ennill Cadair wedi’i cherfio gan y saer Rhodri Owen.
Cwmni gemwaith Rhiannon o Dregaron sydd wedi creu’r medalau ar gyfer y Prif Ddramodydd a’r Prif Gyfansoddwr.
Am y tro cyntaf eleni, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi Deffro, sef cyfrol y cyfansoddiadau ar ei newydd wedd, wedi’i churadu gan ddau o gyn-enillwyr yr Urdd.
Brennig Davies, Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019, yw golygydd creadigol y gyfrol, ac Efa Lois, Prif Artist Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed 2018, sydd wedi’i dylunio.
Gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau, bydd y gyfrol ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg ac ar wefan Eisteddfod yr Urdd, ac fel e-lyfr, ar 22 Hydref.
Bydd rhestr gyflawn o’r holl enillwyr a’r beirniadaethau ar gael ar wefan Eisteddfod yr Urdd o Ddydd Llun, 18 Hydref.
“Hir ymaros”
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, eu bod nhw’n “falch iawn” o fedru cyhoeddi’r Rhestr Testunau heddiw.
“Ac wedi hir ymaros, braf hefyd fydd cael datgelu enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod yr Urdd na gynhaliwyd yn 2020 o ganlyniad i’r pandemig,” meddai.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’n partneriaid am ein helpu i roi sylw ychwanegol a haeddiannol i enillwyr y prif wobrau.”
- Rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe Eisteddfod yr Urdd.