Bydd ffilm gyntaf erioed Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar gael i’w ffrydio ar ddyddiadau penodol o heddiw (1 Hydref) ymlaen.

Mae cast o 14 o aelodau ifanc y theatr yn mynd ar daith “epig”, llawn cerddoriaeth, wrth i’r cynhyrchiad digidol o Y Teimlad / That Feeling gael ei ffrydio ar-lein.

Hanna Jarman sydd wedi ysgrifennu’r ffilm, ac ynddi mae byd y Duwiau Cariad hynafol yn gwrthdaro gyda realiti cariad yn y Gymru gyfoes.

Mae hi’n ffilm ddwyieithog, sydd wedi’i ffilmio mewn amryw leoliad dros Gymru a thros Zoom, yn cyd-blethu straeon y cymeriadau ifanc wrth iddyn nhw ddathlu ac ailddiffinio’r hyn all cariad fod.

Nico Dafydd sy’n gyfrifol am y gwaith ffilmio – sy’n amrywio o’r mynyddoedd a’r môr ger Bangor, gwacter prif lwyfannau Theatr Clwyd a Theatr y Sherman, i strydoedd Cathays, Canol Dinas Caerdydd a Butetown ger y Bae.

Wrth siarad gyda golwg360, dywedodd Nico Dafydd ei bod hi’n neis cael ymweld â gwahanol lefydd dros Gymru.

Mae’r ffilm yn “gywaith llwyr”, meddai gan fod rhannau o’r ffilm wedi cael eu ffilmio gan bobol ifanc, neu gan aelodau o’u teulu, yn sgil cyfyngiadau Covid.

Cafodd yr holl ffilmio ei wneud mewn wythnos, ond roedd hynny’n beth “eithaf neis”, meddai Nico Dafydd.

“Roedd yr intensity yn neis achos roedden ni gyda’n gilydd am yr wythnos gyfan yna jyst yn gweithio ar hynna.

“Fi wedi gweithio gyda Hanna [Jarman] cwpwl o weithiau o blaen, ac mae hi’n awdur rili sensitif i ddyheadau ac emosiynau pobol.

“Dw i wedi gweithio ar ddau brosiect gyda hi gyda phobol ifanc, ac mae hi’n rili da am diwnio mewn i wirionedd beth maen nhw’n trio’i ddweud.

“Mae hi’n treulio lot o amser gyda phobol ifanc yn gwrando shwt maen nhw’n siarad, a beth maen nhw’n siarad amdano, ac wedyn yn trio ffeindio rhyw underlying gwirionedd ma’s o hwnna.”

“Anhygoel”

Daw teitl y ffilm o gân Datblygu, Y Teimlad, ac mae’r recordiad gwreiddiol i’w glywed yn y cynhyrchiad, ynghyd â fersiwn newydd a gafodd ei ysbrydoli gan aelodau’r cast, a’i chyfrannu gan Kizzy Crawford.

“Ac mae’r trac mae Kizzy wedi’i greu yn absolutely anhygoel, wnes i ddim siarad gyda Kizzy cyn cael y trac,” meddai Nico Dafydd sydd wedi ffilmio fideo gerddoriaeth i gyd-fynd â’r ffilm.

“Roedd o’n bleser torri music video i’r trac. Mae lot o fy ngwaith i’n ddiweddar wedi bod ar music videos, mae’n rhywbeth dw i’n mwynhau ei wneud lot.

“Roeddwn i’n gwybod yn ystod yr wythnos roedden ni’n ffilmio gyda phobol ifanc ein bod ni’n mynd i fod yn creu music video fel rhan o’r ffilm, so roedd cael cân mor llawn hwyl a chariad â’r un mae Kizzy wedi’i chreu…

Roedd gan y criw goreograffwr arbennig i hyfforddi’r plant i ddawnsio ar gyfer y fideo, a gallai cael pobol ifanc i ddawnsio a meimio’r geiriau fod wedi bod yn “daunting”, meddai Nico Dafydd, ond “roedd popeth mor hapus yn y gwaith gafodd ei greu, roedd e’n ffordd rili neis i orffen y ffilm off”.

Mae gweithio gyda phobol ifanc yn “hollol wahanol i weithio gyda chast proffesiynol, profiadol”, meddai Nico Dafydd.

“Maen nhw’n rhoi lot mwy o’u hunan mewn i’r gwaith o’r cychwyn cyntaf, ac yn rili aware bod nhw’n gwneud hynna hefyd.

“Ar adegau maen nhw’n rhoi popeth ar y lein i ti, ac mae unrhyw waith yn elwa o gael y math yna o onestrwydd ynddo.

“Mae hi wastad jyst yn hwyl pan ti’n ffilmio neu’n gwneud darn o gelf efo pobol ifanc, mae ganddyn nhw’r egni, ac enthusiasm ac yn aml maen nhw’n nerfus neu’n apprehensive ond wastad yn troi hwnna mewn i ryw egni, sydd wastad yn neis.”

Dathlu cydweithio

“Er ein bod ni wedi bod yn ffilmio gyda phobol ifanc, mae rhannau o beth sydd yn y ffilm… nhw sydd wedi’i ffilmio fo eu hunain, neu wedi cael rhywun yn eu tŷ nhw i ffilmio fo iddyn nhw,” esboniodd Nico Dafydd.

“Mae’r gwaith yn absolute collaboration oherwydd cyfyngiadau, ac mae bron â bod yn ddathliad o hwnna.

“Mae’r ffaith ein bod ni wedi gorfod gofyn i bobol ifanc ffilmio eu hunain yn rhan o beth sy’n gwneud y darn yn unigryw dw i’n meddwl.

“Mae o’n rili dod â gwahanol bobol, a gwahanol lefydd, a gwahanol ardaloedd a golygfeydd i gyd at ei gilydd mewn un darn o waith.

“Er bod hwnna wedi bod yn challenge, roedd yn werth ei wneud er mwyn dathlu hwnna.”

  • Mae’r cynhyrchiad ar gael i’w ffrydio ar ddyddiadau penodol rhwng Dydd Gwener 1 a Dydd Sadwrn 9 Hydref. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Theatr Clwyd.