Mae awdur nofelau ditectif wedi creu record gyda’i gyfrol ddiweddaraf.

Wedi iddo gyhoeddi’r gyfrol, Dan Gamsyniad, John Alwyn Griffiths nawr yw’r unig awdur Cymraeg i gyhoeddi deng nofel dditectif mewn deng mlynedd – ac mae wedi llwyddo i roi’r gair ‘Dan’ ar gychwyn pob un teitl!

Dyma’r deg: Dan yr Wyneb (2012); Dan Ddylanwad (2013); Dan Ewyn y Don (2014); Dan Gwmwl Du (2015); Dan Amheuaeth (2016), Dan ei Adain (2017); Dan Bwysau (2018); Dan Law’r Diafol (2019); Dan Fygythiad (2020); Dan Gamsyniad (2021).

Ers cyhoeddi llyfr am ei brofiadau gyda’r heddlu yn 2011, mae’r awdur, sy’n wreiddiol o Fangor, wedi ysgrifennu am bob math o destunau sy’n berthnasol i’r ddegawd ddiwethaf, megis llygredd o fewn yr heddlu, cam-drin plant, a thrais rhywiol.

Cyn iddo ddechrau ysgrifennu am dditectifs a throsedd, roedd John Alwyn Griffiths yn arfer bod yn heddwas, gan weithio am flynyddoedd gyda Heddlu Gogledd Cymru cyn ymddeol yn 1998.

“Dechrau ar y daith”

Nid oedd John Alwyn Griffiths wedi ysgrifennu’n greadigol cyn mynd ati i lunio ei gyfrol gyntaf am ei brofiadau gyda’r Glas, Pleserau’r Plismon, yn 2011.

“Pan oeddwn yn ieuengach fuaswn i byth wedi mentro meddwl am ysgrifennu llyfr, heb sôn am lyfr Cymraeg,” meddai.

“Ond wedi ysgrifennu’r cyntaf, cyfrol yn sôn am ddigwyddiadau dwys a doniol a brofais yn ystod fy ngyrfa yn yr heddlu, newidiais drac a dechrau ar y daith o ysgrifennu nofelau Cymraeg.

“Ym mhob nofel, bob blwyddyn, ceisiais gynnwys testun amserol, un ai fel pwnc neu yn rhan o’r plot.

“Er enghraifft, twyll a llygredd yn y sector gyhoeddus, llygredd o fewn yr heddlu, brawychiad rhyngwladol, masnachu pobl, llofruddiaeth, glanhau arian budr, cyffuriau, trais rhywiol, cam-drin plant ‒ y math o beth sydd i’w weld yn y papurau newydd ac ar raglenni newyddion y teledu bron yn ddyddiol.

“Yn anffodus, allwn ni ddim osgoi’r math yma o ymddygiad, oherwydd dyna ydi bywyd.

“Ond y peth pwysicaf yn fy nofelau i ydi bod daioni bob amser yn goroesi a bod ‘Jeff Evans’ yn cael clod y darllenwr am y fuddugoliaeth, er gwaetha’r anawsterau.”

Troseddau tu ôl y sgrin

Mae’r nofel ddiweddaraf yn ychwanegu at y patrwm o drafod themâu amserol, gyda rhannau ohoni’n canolbwyntio ar gamymddwyn ar gyfryngau cymdeithasol.

“Dan enw ffug, mae pobl yn dweud pethau cas, brwnt neu annheg yn gyhoeddus, gan guddio tu ôl i fysellfwrdd a sgrin y cyfrifiadur,” meddai John Alwyn Griffiths.

“Does dim ond rhaid edrych ar yr hyn mae pêl-droedwyr du yn gorfod ei ddioddef yn gyson i weld pa mor fawr yw’r broblem, a’r niwed mae hyn yn gallu ei achosi, yn enwedig i bobl ifanc.”

Mae Dan Gamsyniad ar gael nawr ym mhob siop lyfrau Cymraeg, ac awr wefannau Gwasg Carreg Gwalch a Gwales.