Mae Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn dychwelyd y penwythnos hwn ar ôl cael saib yn ystod y pandemig.

Bydd digrifwyr Cymraeg megis Tudur Owen, Esyllt Sears a Steffan Alun yn perfformio tros y penwythnos, yn ogystal ag enwau cyfarwydd ar deledu Prydeinig, fel Josh Widdicombe, Kiri Pritchard-McLean a Rhod Gilbert.

Dyma fydd y trydydd tro i’r ŵyl gael ei chynnal ar lwyfannau’r dref, ar ôl cael ei lansio yn 2018 fel chwaer-ddigwyddiad i Ŵyl Gomedi Machynlleth.

Fe ddechreuodd mewn lleoliadau ar hyd y promenâd yn y dref, ond mae hi bellach wedi ehangu i gynnwys llwyfannau fel Canolfan y Celfyddydau.

Cefndir

Mae Gŵyl Gomedi Aberystwyth, yn ogystal â Machynlleth, yn cael ei threfnu gan gwmni Little Wander.

“Mae yna lawer o gefnogaeth leol wedi bod,” meddai Henry Widdicombe o’r cwmni wrth gylchgrawn Golwg ar drothwy’r digwyddiad.

“Yr holl syniad oedd creu chwaer-ŵyl newydd, nid i ddisodli Machynlleth mewn unrhyw ffordd, ond i roi lle i’r ŵyl dyfu.

“I greu digwyddiad arall ar ben arall y tymor, sy’n cynnig sioeau gorffenedig, tra bod Machynlleth yn ymwneud â gwaith ar y gweill.”

Newid y patrwm

Fe gafodd Gŵyl Gomedi Machynlleth ei chanslo ym mis Mai eleni, felly doedd dim modd dilyn y drefn arferol o berfformio stand-yp ‘ar ei hanner’ ym Machynlleth, ac wedyn y stand-yp gorffenedig yn Aberystwyth.

“Mi benderfynon ni pe baen ni’n bwrw ymlaen, y bydden ni’n gadael i’r perfformwyr ddod â hen sioe o 2019 neu ddod â gwaith ar y gweill,” meddai Henry Widdicombe.

“Mae ganddyn nhw’r rhyddid hwnnw eleni.

“Ond pan fydd pethau wedi mynd yn ôl i drefn, rydyn ni am barhau gyda’r arfer fod Machynlleth yn cynnig gwaith sydd ar y gweill, ac yna [bod y digrifwyr yn] dod â’u sioeau gorffenedig i Aberystwyth.”

Llond bol o chwerthin ger y lli

Non Tudur

“Mi ddaeth un fenyw o’r Almaen ata i ar y diwedd y tro diwethaf, a dweud cymaint yr oedd hi wedi mwynhau, a chymaint roedd hi wedi dysgu am y Gymraeg”