Y gantores Billie Eilish fydd y prif artist yng ngŵyl Glastonbury y flwyddyn nesaf.

Hi fydd yr unawdydd ieuengaf erioed i fod yn brif seren yr ŵyl yng Ngwlad yr Haf, a bydd hi’n gwneud hynny pan fydd hi’n dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ar ddydd Gwener, 24 Mehefin 2022.

Hi hefyd sy’n canu’r gân agoriadol ar gyfer y ffilm James Bond diweddaraf, No Time To Die, a gafodd ei ryddhau’r wythnos hon.

Rhyfeddol

Dywedodd Emily Eavis, trefnydd Glastonbury, ei bod hi “wrth ei bodd” o gael dweud mai’r “rhyfeddol Billie Eilish” fydd prif artist yr ŵyl.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ers 2019, ar ôl iddi gael ei chanslo ddwywaith oherwydd pandemig Covid-19.

Roedd digwyddiad rhithiol wedi digwydd eleni, gydag artistiaid fel Coldplay, Damon Albarn a Wolf Alice yn chwarae setiau a oedd wedi cael eu recordio o flaen llaw a’u chwarae fel ffrwd byw.