Mae sefyllfa gofal yn y cartref yng Ngheredigion wedi gwaethygu yn “gyflym ac yn sylweddol” dros yr haf, yn ôl adroddiad.

Daw hyn yn dilyn “galw digynsail” am wasanaethau, yn ogystal â “rhestrau aros hir.”

Mae sawl sir arall yng Nghymru wedi adrodd eu bod nhw’n wynebu heriau o’r fath, gyda llawer o ddarparwyr yn colli staff a diffyg unigolion cymwys i gymryd eu lle.

Roedd Mark Strong, cadeirydd pwyllgor cymunedau iachach y Cyngor, wedi gofyn am ddiweddariad ar y ddarpariaeth gofal cartref yn y sir.

Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn cael ei drafod gan y pwyllgor ar Hydref 6.

Ymdrechion staff yn “eithriadol”

Mae’r adroddiad yn nodi bod yn rhaid i ddarparwyr gofal cartref basio cyfres o ganllawiau er mwyn cael eu galw i wasanaethu i’r cyngor.

“Trwy gydol y pandemig Covid-19, mae’r Darparwyr Gofal Cartref wedi gweithio’n ddiflino i gynnal anghenion gofal a chymorth ein cymunedau,” meddai’r adroddiad.

“Parhaodd eu staff i ddarparu i’r unigolion bregus hynny er bod mwy o risgiau iddyn nhw a’u teuluoedd, wrth gynnal gofal a chefnogaeth gyswllt agos.

“Mae eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod fel rhai eithriadol mewn amseroedd digynsail.”

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y rhestrau aros hir ar draws y wlad.

“O ganlyniad i’r pwysau cynyddol hyn ar y darparwyr gofal cartref, nododd llawer nad oedden nhw’n gallu cymryd pecynnau gofal newydd o’r rhestr aros wrth iddyn nhw ymdrechu i gynnal yr ymrwymiadau presennol,” meddai wedyn.