Mae Sadiq Khan yn dweud ei bod hi’n “anodd” cael ei warchod 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos oherwydd lliw ei groen a’r duw mae’n ei addoli.

Dywedodd y gwleidydd Mwslimaidd wrth gynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton ei fod e wedi gwrthod awgrym yn 2016, pan gafodd ei ethol yn Faer Llundain, y dylai gael ei warchod gan yr heddlu.

Ond ildiodd yn ddiweddarach fod y perygl i’w deulu’n ormod iddo wrthod yn y pen draw.

Daw sylwadau Sadiq Khan ar ôl iddo gael ei feirniadu mewn erthygl newyddion am deithio fel rhan o osgordd o dri cherbyd i Barc Battersea, bedair milltir a hanner o’i gartref, i fynd â’i gi Luna am dro.

Dywedodd ei fod e wedi gwneud y penderfyniad ar sail cyngor yr heddlu, a bod y stori “wedi arwain at bobol yn anfon e-byst bygythiol”.

“Pan ges i fy ethol gyntaf, yn fuan iawn wedyn, dywedwyd wrthyf oherwydd asesiadau risg y dylwn i gael gwarchodaeth lawn gan yr heddlu ac fe wnes i wrthod,” meddai.

“Yr hyn newidiodd y sefyllfa i fi oedd pan siaradodd yr heddlu â phennaeth fy staff a’m gwraig i geisio fy mherswadio i dderbyn, a’r pwynt wnaethon nhw oedd y gallwn i wrthod, ond a oeddwn i’n sylweddoli, oherwydd fi fy hun, y gallai’r rheiny oedd gyda fi fod mewn perygl?

“P’un ai fy ngwraig a’m plant yw hynny neu bennaeth fy staff rwy’n gweithio â fe, a dyna’r rheswm pam y dywedais i hynny yn y pen draw.”

Diogelwch

Dywedodd Sadiq Khan fod ganddo fe 51 o swyddogion ar ei dîm i’w gadw’n ddiogel “o amgylch y cloc”, a bod ei staff wedi cael cynnig cwnsela i ymdopi â’r “casineb” y bu yntau’n ei wynebu.

Dywedodd nad oedd e wedi siarad yn gyhoeddus o’r blaen oherwydd doedd e ddim eisiau i bobol eraill deimlo na allen nhw fentro i’r byd gwleidyddol.

Ond cafodd ei ysbrydoli gan bêl-droedwyr sy’n wynebu hiliaeth, meddai.

“Dw i ddim yn mynd i adael i’r bobol hiliol yma a’r Islamoffobiaid yma i fy mygwth i, a fydda i fyth yn ildio iddyn nhw.

“Mae angen gwarchodaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ar faer y ddinas orau yn y byd oherwydd lliw ei groen a’r duw mae’n ei addoli, all hynny ddim bod yn iawn.”