Mae Mark Drakeford wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod yn “drahaus” ac o “ecsbloetio” yr argyfwng petrol drwy wahodd gyrwyr Ewropeaidd i weithio yma am dri mis.

Daeth sylwadau prif weinidog Cymru yn ystod sesiwn holi’r prif weinidog yn y Senedd, wrth iddo ddweud na fyddai’r cynllun yn llwyddo.

Daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf y byddai 5,000 o weithwyr lorïau yn cael symud i’r Deyrnas Unedig ar fisas dros dro er mwyn mynd i’r afael â phroblemau’r gadwyn gyflenwi.

‘Gwatwarus’

Wrth ymateb i gwestiwn Laura Anne Jones, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, dywedodd Mark Drakeford ei bod hi’n “anodd dychmygu Llywodraeth sydd wedi gwneud ymgais mwy gwatwarus i ddatrys problem maen nhw wedi’i chreu”.

“Wrth gwrs ein bod ni’n brin o yrwyr HGV oherwydd gwnaeth eich Llywodraeth chi fynd â ni allan o’r Undeb Ewropeaidd lle’r oedden ni, cyn hynny, yn cael ein cyflenwi gan yrwyr.

“Mae’r syniad y bydd pobol yn barod i ddadwreiddio’u hunain a dychwelyd i’r wlad hon am ychydig wythnosau, a chael gwybod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedyn y byddan nhw’n cael eu diystyru eto ar Noswyl Nadolig pan nad oes ganddyn nhw ddefnydd ar eu cyfer nhw rhagor yn … mae traheustra hynny’n syfrdanol.”

Yn ôl Mark Drakeford, mae 800 o bobol wedi ailhyfforddi i fod yn yrwyr lorïau fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Diswyddiadau ers 2015, ac mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu er mwyn “tyfu capasiti cartref yn y maes hwnnw”.

“Dydy hynny ddim yn mynd i fod yn ateb ar gyfer y problemau tymor byr, na chwaith cynllun sydd yn ecsbloetio eraill gymaint fel nad oes gobaith o gwbl y gall gyflwyno’r hyn sydd ei angen.”

Manteisiodd y prif weinidog ar ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton i feirniadu Llywodraeth Geidwadol Boris Johnson, ac fe gafodd e gymeradwyaeth wrth i’r dorf godi ar ei thraed pan ddywedodd e fod y llywodraeth “yn analluog i’r carn”.