Fe fu ymateb chwyrn i aelod o’r Blaid Lafur yng Ngogledd Caerdydd pan ddywedodd hi wrth gynhadledd y blaid yn Brighton ei bod hi’n cefnogi Rosie Duffield.

Mae Duffield, Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Caergaint, dan y lach ar ôl iddi wneud sylwadau sy’n cael eu hystyried yn drawsffobig.

Ond dywedodd Bronwen Davies wrth y gynhadledd ei bod hi’n amddiffyn ei hawl i’w safbwynt ei hun ar ryw a rhywedd yn seiliedig ar fioleg.

Dydy Rosie Duffield ddim yn y gynhadledd ar ôl cael ei bygwth a’i galw’n drawsffobig am ddweud mai dim ond menywod sydd â chroth.

‘Meiddio mynegi credoau’

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae un o’n haelodau seneddol sy’n fenyw wedi bod yn destun ymgyrch ffiaidd o sarhad am feiddio mynegi credoau y mae ganddi berffaith hawl iddyn nhw,” meddai Bronwen Davies.

“Gynhadledd, rwy’n sefyll gyda Rosie Duffield a hyd yn oed pe bawn i’n anghytuno â hi, byddaf yn ei hamddiffyn hyd at farwolaeth ei hawl i fynegi ei safbwyntiau heb iddi fod yn destun llu o sarhad gwreig-gasaol.”

Wrth ymateb, galwodd Alice Perry, cadeirydd y ddadl, ar y cynadleddwyr i “wrando ar ein gilydd yn barchus” wrth i’r dorf floeddio.

“Mae’n bosib y bydd pethau yr ydym yn anghytuno yn eu cylch ond gadewch i ni fod yn barchus o ran sut rydyn ni’n gwrando ar ein gilydd.”