Mae Heddlu’r Alban yn cael eu hannog i ddilyn esiampl Cymru a’r Gymraeg, wrth iddyn nhw gynnal ymgynghoriad ar y defnydd o Aeleg yr Alban, yn ôl The Times.

Mae’r ymgynghoriad wedi cael ei feirniadu gan filoedd o bobol sy’n dweud ei fod yn rhan o ymgais “gwleidyddol” i gynyddu’r defnydd o’r iaith leiafrifol.

Derbyniodd yr heddlu 6,700 o ymatebion, ac roedd oddeutu 75% ohonyn nhw’n mynegi dicter neu ddiffyg diddordeb.

Yn ôl Linda Jones, sy’n goruchwylio’r cynllun iaith Aeleg ar ran yr heddlu, roedd nifer sylweddol yn teimlo bod cymhelliant gwleidyddol i’r cynllun, a’i fod yn gyfystyr ag “ymyrraeth” gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Roedd nifer yn teimlo nad cynnal dwyieithrwydd yw gwaith yr heddlu, a bod yr heddlu’n “gwastraffu arian” ar ailfrandio cerbydau, arwyddion, dogfennau a gwisgoedd plismyn fel eu bod nhw’n ddwyieithog.

Roedd eraill yn nodi’r ystrydeb fod “y nifer fach sy’n siarad yr Aeleg yn yr Alban bron i gyd yn siarad Saesneg”, a bod ieithoedd eraill yn fwy teilwng o sylw.

Roedd 13 o ymatebion i’r ymgynghoriad yn yr iaith Aeleg, ond roedd eraill yn nodi mai mewn ardaloedd lle’r oedd yr iaith ar ei hanterth yn unig y dylai siaradwyr yr iaith o fewn yr heddlu fod yn gweithio.

Roedd eraill yn awgrymu rhoi bathodynnau i’r rhai sy’n medru’r iaith i’w rhoi ar eu gwisgoedd.

Gaeleg a’r Gymraeg

Mae arolwg o’r heddlu yn yr Alban yn dangos bod 434 o blismyn a staff eraill yn medru’r Aeleg i ryw raddau, a bod 248 yn gallu ysgrifennu’r iaith i lefel sylfaenol.

Dim ond 48 o siaradwyr oedd gan yr heddlu yn ôl arolwg 2017.

Mae Bord na Gaidhlig wedi rhoi grant o £8,000 i’r heddlu at ddibenion cyfieithu a’r wasg.

Nododd rhai wrth ymateb i’r ymgynghoriad y dylai Heddlu’r Alban “ddilyn esiampl yr heddluoedd yng Nghymru sy’n arwain drwy esiampl ac yn weithgar wrth annog y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol, i gynyddu’r cyfleoedd i weld, clywed a defnyddio’r iaith wrth gynnal busnes yr heddlu”.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban, mae’n ofynnol yn ôl Deddf Iaith 2005 fod gan gyrff cyhoeddus Gynllun Iaith gan fod gan yr Aeleg statws swyddogol yn yr Alban ond dywedodd fod yr ymgynghoriad “yn fater i Heddlu’r Alban”.