Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’r rheolau ar gyfer ysgolion o ran pwy ddylai ynysu a phwy ddylai fynd i’r ysgol.

Yn ôl Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, mae’r “system yn llanast”, ac mae hi’n dweud y dylid gwneud mwy i dynhau’r system.

Fodd bynnag, pan gafodd y mater ei godi yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Medi 28), dywedodd y Trefnydd ei bod hi’n “anghytuno gyda’r aelod fod y system yn llanast”, gan fynnu bod canllawiau’r Llywodraeth i ysgolion yn “glir”.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, bu 9,500 o achosion coronafeirws ymhlith pobol dan 20 oed.

Mae Plaid Cymru yn honni bod y mwyafrif helaeth ohonyn nhw’n blant ysgol.

‘Pryderon’

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i bryderon cynyddol gan rieni, athrawon a disgyblion am y cynnydd yn y cyfraddau heintio mewn ysgolion,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae etholwyr yn dweud wrthyf fod y cyngor a roddir iddynt naill ai’n gwrthdaro, neu’n gyfangwbl absennol.

“Er gwaethaf ymdrechion staff rheng flaen, mae problemau ac anghysondebau mawr.

“O ran diogelwch ein plant, mae’n rhyfeddol bod Llywodraeth Cymru yn methu â defnyddio’r mesurau sydd ar gael.

“Er enghraifft, byddai profi cyd-ddisgyblion a brodyr a chwiorydd sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achosion coronafeirws positif yn helpu i nodi achosion positif asymptomatig y byddai angen iddynt hunanynysu wedyn.

“Mae cymaint yn fwy gallai gael ei wneud ar awyru hefyd.

“Dylai ysgolion fod yn lle diogel i’n plant ddysgu – nid cadarnle i Covid-19.”