Mae cyfraddau Covid-19 ar eu huchaf yng Nghymru ers i gofnodion cymharol ddechrau, ac mae’r ystadegau’n awgrymu bod y drydedd ton yn parhau ledled y wlad.

Roedd cyfanswm o 20,806 o achosion newydd yn ystod yr wythnos hyd at Fedi 23, sy’n cyfateb i 656.4 o achosion ym mhob 100,000 o bobol.

Mae hyn yn uwch na’r gyfradd ar unrhyw adeg ers i brofion torfol ddechrau yn ystod haf 2020, ac mae’n sylweddol uwch na’r 536.1 o achosion ym mhob 100,000 o bobol yr wythnos gynt.

Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o achosion newydd o blith gwledydd y Deyrnas Unedig, ond mae’r don newydd o achosion yn amrywio o un wlad i’r llall, yn ôl dadansoddiad gan y Press Association.

Tra bo’r gyfradd yn dal i godi yng Nghymru, fe fu’n cwympo ers rhai wythnosau yn yr Alban – o 824.6 ym mhob 100,000 o bobol ddechrau mis Medi i 422.4 erbyn hyn.

Mae arwyddion bod y gyfradd yn gostwng yng Ngogledd Iwerddon hefyd, ar ôl cyrraedd ei hanterth o 620.5 ym mhob 100,000 o bobol ym mis Awst.

544 o achosion ym mhob 100,000 o bobol oedd cyfradd Lloegr erbyn canol Gorffennaf, ac fe gwympodd yn sydyn cyn dechrau arafu o gwmpas 300, ac fe gwympodd eto ddechrau’r mis hwn cyn codi eto i 324.7 o 256.1 o’r wythnos gynt.

Patrymau gwahanol

Yn ôl y dadansoddiad, mae sawl rheswm am yr amrywiaeth o un wlad i’r llall yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r rhain yn cynnwys pa mor gyflym aeth llywodraethau ati i godi’r cyfyngiadau, cyfraddau brechu a sut a phryd y dychwelodd plant i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf.

Ond mae gan bob gwlad un peth yn gyffredin, sef fod derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau yn ystod y don newydd yn parhau’n is na’r lefelau yn ystod yr ail don ac mae lle i gredu mai’r cyfraddau brechu sy’n gyfrifol am hynny.

Cafodd chwech o farwolaethau newydd eu hadrodd yn ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Mawrth, Medi 28), sy’n mynd â’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig i 5,870.

Cafodd 2,270 o achosion eu hadrodd, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw ers dechrau’r pandemig i 349,570.