Fe fyddai’n anghyfreithlon ffugio prawf Covid-19 llif unffordd ar gyfer pàs Covid o dan gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru.

Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog, dywedodd Mark Drakeford y byddai’n gwneud yn glir i bobl fod ffugio profion negyddol yn rhoi eraill mewn perygl.

Bydd yn rhaid i bobol ddangos pàs mewn clybiau nos neu ddigwyddiadau mawr i brofi eu bod wedi eu brechu’n llawn neu wedi derbyn canlyniadau prawf Covid-19 negyddol o fewn y 48 awr blaenorol.

Pàs Covid

Mae’r cynlluniau ar gyfer pàs Covid wedi hollti barn, gyda’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu’r cynlluniau, gan gwestiynu sut mae modd gweithredu’r pasys hyn.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r cynlluniau’n gosod cyfyngiadau ar ein rhyddid personol ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “aneffeithiol ac yn wrth-fusnes”.

Mae disgwyl i’r Senedd bleidleisio ar y pasys ddydd Mawrth nesaf (Hydref 5).

Mae Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar gefnogaeth Plaid Cymru i basio’r mesur, ond dydy’r blaid heb wneud penderfyniad i’w gefnogi.

Mae’n debyg fod rhai Aelodau o’r Senedd o fewn Plaid Cymru am weld mwy o dystiolaeth a mwy o fanylder gan gwestiynu ymarferoldeb y pasys.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda Phlaid Cymru am gytundeb cydweithredu.

Mae gan y llywodraeth union hanner y pleidleisiau yn y Senedd, ac mae angen help gan y gwrthbleidiau i basio deddfau.

Y Dechnoleg

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mawrth, Medi 28), fe ofynnodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, i Mark Drakeford a yw’r llywodraeth yn bwriadu defnyddio technoleg a fyddai’n atal pobol rhag ffugio profion negyddol.

Fe ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud y byddai hi’n “drosedd pe bai rhywun yn ffugio canlyniadau dyfais prawf llif, er mwyn ei wneud yn glir i bobol fod gwneud hynny yn rhoi pobol eraill mewn perygl uniongyrchol”.

Dywedodd Mark Drakeford, pe byddai’n bosib i dechnoleg gael ei datblygu i osgoi pobol yn “hunanardystio” i ffugio profion llif, y byddai effaith “andwyol” iechyd y cyhoedd o wirio pàs pawb mewn ciwiau hir mewn digwyddiadau ar raddfa fawr, fel rygbi rhyngwladol, yn “drech na manteision y pàs ei hun”.

“O dan yr amgylchiadau hynny, byddai’n rhaid i sefydliadau wirio ar hap,” meddai.

Digwyddodd hynny yng nghynhadledd y Blaid Lafur, pan oedd Mark Drakeford yn bresennol yn Brighton ddoe (dydd Llun, Medi 28).

Y Senedd yn pleidleisio

Hyd yma yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio ar y dyfodol o safbwynt cyfyngiadau clo yng Nghymru, a hynny drwy bwerau brys.

Gyda’r cynlluniau newydd hyn, fe fydd gan Aelodau o’r Senedd bleidlais ar y pasys Covid ddydd Mawrth nesaf (Hydref 5).

Y Senedd am bleidleisio ar y gofynion i ddangos pasys Covid

Fel rhan o’r gofynion, bydd rhaid i bobol ddangos pàs Covid er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos o Hydref 11

Dim pàs, dim mynediad

Jacob Morris

“Pàs covid ac nid pasbort brechu yw hyn, mae pobl wedi cyfarwyddo gyda defnyddio pethau fel hyn erbyn hyn”