Bydd Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio ar gynnig yr wythnos nesaf i’w gwneud hi’n orfodol i ddangos pàs Covid i fynd i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos.
Fel rhan o adolygiad tair wythnos diwethaf Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Mark Drakeford gyhoeddi y bydd hi’n orfodol i bobol ddangos eu bod nhw wedi cael eu brechu’n llawn, neu wedi cael prawf llif unffordd negyddol, er mwyn cael mynediad i leoliadau risg uchel a digwyddiadau mawr.
Mae disgwyl i’r rheolau hynny ddod i rym ar Hydref 11, ond bydd Aelodau’r Senedd yn trafod y mater ddydd Mawrth nesaf (Hydref 5).
Fe fydd pasbortau brechu yn dod yn orfodol mewn digwyddiadau mawr a chlybiau nos yn yr Alban ddydd Gwener (Hydref 1).
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi troi’u cefnau ar gynlluniau tebyg yn Lloegr.
‘Nid ar chwarae bach’
Mae pàs Covid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cael ddefnyddio mewn rhai digwyddiadau dros yr haf yng Nghymru, ac mae rhai safleoedd eisoes yn mynnu bod y pàs yn cael ei ddangos fel amod i gael mynediad.
Mae rhai wedi codi pryderon ynghylch y pasys, gan ddweud y gallen nhw atal rhyddid sifil pobol.
Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford fod gan y miloedd o bobol sydd wedi dal Covid-19 yn ddiweddar hawl ehangach i gael mesurau i’w cadw’n sâff hefyd, a bod y pàs Covid yn trio dod o hyd i gydbwysedd rhwng rhyddid sifil pobol a rhyddid ehangach y gymdeithas.
“Nid ar chwarae bach yr ydym yn cyflwyno mesurau o’r fath: rydym am gefnogi lleoliadau i aros ar agor a galluogi digwyddiadau i barhau drwy fisoedd yr hydref a’r gaeaf a allai fod yn gyfnod anodd,” meddai Mark Drakeford.
“Wrth inni symud i gyfnod y gaeaf, mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu Cymru, ac rwy’n annog yr aelodau i gefnogi hyd ar Hydref 5.”