Mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, yn mynnu bod “digon o danwydd” wrth iddi annog pobol i beidio â phrynu mewn panig er mwyn sicrhau bod modd i weithwyr hanfodol barhau â’u gwaith.
Mae hi’n gofyn i bobol ymddwyn “yn gyfrifol” tra bod llywodraethau gwledydd Prydain yn ceisio lleddfu’r problemau sydd wedi codi dros y dyddiau diwethaf.
Dywedodd penaethiaid y diwydiant tanwydd ddoe (dydd Llun, Medi 27) y gallai’r argyfwng ddod i ben o fewn rhai diwrnodau pe bai’r galw’n dychwelyd i’w lefelau arferol.
Mae’r Fyddin yn paratoi i yrru tanceri petrol wrth i giwiau o fodurwyr barhau mewn gorsafoedd petrol am y pumed diwrnod yn olynol.
‘Deall pryderon pobol’
“Rwy’n deall pryder pobol o weld y sefyllfa yn nhermau’r ciwiau mewn gorsafoedd petrol sydd wedi rhedeg allan o betrol, ond y peth pwysig i’w gydnabod fan hyn yw fod digon o danwydd yma,” meddai Rebecca Evans.
“Mae digon o danwydd yn y purfeydd, ac mae digon wedi’i storio hefyd.
“Yr hyn sydd gennym yw problem yn nhermau logisteg ac mae gwaith ar y gweill i ddatrys hynny.
“Rwy’n gwybod y gall achosi straen a phryder i bobol ond rhaid i ni gofio bod yna bobol sy’n gweithio yn y sectorau hanfodol y mae angen y petrol hwnnw arnyn nhw.
“Mae gennym ni gynllun tanwydd cenedlaethol a allai flaenoriaethu pobol neu grwpiau penodol am fynediad i danwydd ond dydyn ni ddim wedi gweithredu hynny oherwydd rydym yn deall y bydd y system yn cydbwyso’i hun yn fuan iawn.”
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn trafod y sefyllfa bob dydd.