Bydd Ysgol Gynradd Abersoch yn cael ei chau ar Ragfyr 31 eleni.

Fe wnaeth cabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo’r cynnig yn unfrydol mewn cyfarfod heddiw (Dydd Mawrth, Medi 28).

Roedd yr Adran Addysg wedi mynegi pryderon ynglŷn â niferoedd isel yr ysgol, gyda 76% o gapasiti’r ysgol yn wag.

Yn ogystal, fe wnaethon nhw sôn am gostau cynyddol ei chynnal, gyda phob disgybl yn costio oddeutu £17,404 yr un, o’i gymharu â chyfartaledd y sir o £4,198.

Fe dderbyniodd y Cyngor 211 o wrthwynebiadau i’r cynlluniau mewn ymgynghoriad, gyda sylwadau cyffredinol yn nodi bod yr ysgol yn “cefnogi bywyd y pentref” ac y byddai cau ei drysau yn cael “effaith negyddol ar y pentref a’r iaith Gymraeg”.

O ganlyniad i gau’r ysgol, bydd y deg disgybl yn cael lle yn Ysgol Sarn Bach yn y pentref cyfagos o fis Ionawr, ac mae’r awdurdod yn paratoi i wella’r adnoddau cludiant a dysgu yno erbyn hynny.

Sylwadau’r Cyfarfod

“Nid peth hawdd” yw ystyried cau unrhyw ysgol, meddai Cemlyn Williams, yr Aelod Cabinet dros Addysg, gan ychwanegu eu bod nhw’n deall bod hyn wedi bod yn “gyfnod anodd” i’r rhai sydd ynghlwm â’r ysgol.

Ychwanegodd Garem Jackson, Pennaeth yr Adran Addysg, eu bod nhw wedi “gwerthuso cryfderau, cyfleoedd, gwendidau a bygythiadau” yr holl opsiynau, cyn cynnig cau’r ysgol.

Dywedodd Dewi Wyn Roberts, y Cynghorydd dros Abersoch, y byddai cau’r ysgol yn cael “effaith ddifrifol” ar y gymuned a’r Gymraeg yn lleol.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith yn disgrifio’r penderfyniad fel “brad” ar y gymuned.

“Wrth gau yr ysgol mae Gwynedd yn tanseilio eu polisïau tai ac iaith eu hunain trwy gefnu ar gymuned Abersoch, ac yn anfon arwydd clir at gymunedau eraill sydd dan bwysau nad yw’r Cyngor yn barod i sefyll i fyny drostyn nhw,” meddai Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg y Gymdeithas.

“Trwy gydol y broses, mae’r Cyngor wedi anwybyddu lleisiau’r gymuned a gwrthod ystyried opsiynau amgen byddai wedi galluogi’r ysgol i aros ar agor fel rhan o ffederasiwn.

“Roedd asesiadau’r Cyngor ei hun yn cydnabod byddai cau’r ysgol yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg a’r gymuned, ond eto maen nhw wedi eu hanwybyddu.

“Maent wedi bradychu’r gymuned fregus hon a thanseilio’r gobeithion o ddefnyddio’r ysgol fel sail i adfywiad y Gymraeg yn lleol.

“Pryderwn yn fawr ymhellach bod y Cyngor yn bwriadu gwerthu adeilad yr ysgol, sy’n golygu na allai Cylch Meithrin na Cylch Ti a Fi barhau yno chwaith ac yn debyg o gael eu symud allan o’r pentref hefyd.

“Dyfodol ein cymunedau yw dyfodol ei hysgolion, a rhaid i’n cynghorau sir gofio hynny os ydyn nhw o ddifri am ddyfodol y Gymraeg.”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw wedi ffafrio cael ffederasiwn rhwng ysgolion yr ardal, gyda safle Ysgol Abersoch yn cael ei defnyddio fel ‘Ysgol Traeth’ er mwyn “ehangu’r profiad addysgol i holl ysgolion y cylch.”

Ymateb y Cyngor

“Nid peth hawdd ydi penderfynu ar ddyfodol unrhyw ysgol ac mae’r Cyngor yn deall fod hyn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb sydd ynghlwm ag Ysgol Abersoch,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Gyda chapasiti o 34, yn Medi 2020 roedd wyth o blant yn mynychu’r ysgol yn llawn amser a 2 ddisgybl meithrin. Nid yw’r rhagamcanion yn dangos y bydd cynnydd sylweddol i niferoedd disgyblion dros y blynyddoedd nesaf.

“Fe wnaeth y Cyngor gynnal trafodaethau manwl ar sefyllfa fregus yr ysgol yn sgil niferoedd isel o ddisgyblion. Yna, cynhaliwyd cyfnod o ymgynghoriad statudol ac yn fwy diweddar cafodd cyfnod o wrthwynebiad statudol ei gynnal.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau ar ddyfodol Ysgol Abersoch gan gynnwys disgyblion, staff a llywodraethwyr ynghyd â’r unigolion sydd wedi cyfrannu at y cyfnodau ymgynghori a gwrthwynebu statudol.

“Mae hi yn destun tristwch pan mae rhaid ystyried dyfodol unrhyw ysgol. Serch hynny, mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau ei fod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant.

“Ar ôl ystyried yr holl wrthwynebiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r cyfnod gwrthwynebu statudol yn fanwl, penderfynwyd y dylai Ysgol Abersoch gau ar ddiwedd 2021.

“Fel rhan o’r penderfyniad, bydd y disgyblion yn cael cynnig mynychu Ysgol Sarn Bach sydd wedi ei leoli gerllaw, a hynny o fis Ionawr 2022 ymlaen.

“Mae awydd clir wedi bod ym mhentref Abersoch i weld parhad yr ysgol, a bydd pob ymdrech i sicrhau fod cyswllt clir yn parhau rhwng cymuned Abersoch ac Ysgol Sarn Bach lle mae nifer o ddisgyblion Abersoch eisoes yn mynychu o Flwyddyn 4 ymlaen.”

 

Tynged Ysgol Abersoch i’w benderfynu

“Nid peth hawdd ydi penderfynu ar ddyfodol unrhyw ysgol ac rydym yn deall fod hyn wedi bod yn gyfnod anodd”

Darllenwch ragor:

Cau Ysgol Abersoch yn “fradychiad o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg”

“Mae’n frwydr ddyddiol i gadw’r iaith yn fyw oddi fewn i Abersoch,” meddai Cynghorydd Abersoch

Rhieni am wneud safiad yn erbyn y penderfyniad i gau Ysgol Abersoch

“Fydd yna ddim byd llawer ar ôl wedyn, a thrwy’r ysgol rydyn ni’n gallu ffrydio allan y Gymraeg”