Mae’r penderfyniad terfynol ar Ysgol Gynradd Abersoch yn cael ei wneud gan Gyngor Gwynedd heddiw (28 Medi).

Fe gafodd adroddiad ei gyflwyno i gabinet y Cyngor yn awgrymu bod angen cau’r ysgol erbyn diwedd eleni, a rhoi lle i’r deg disgybl presennol yn Ysgol Sarn Bach.

Y prif reswm dros gau’r ysgol – a gafodd ei agor yn 1924 – yw’r costau cynyddol o’i chynnal, ac mae’n debyg bod lle i 32 o blant yno, ond ei bod hi’n gweithredu ar chwarter ei chapasiti ar hyn o bryd.

Ar y llaw arall, mae sawl un yn lleol a chenedlaethol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau oherwydd yr effaith y byddai’n ei gael ar y gymuned a’r Gymraeg yn Abersoch.

Dywed Cymdeithas yr Iaith bod y cynlluniau’n “unllygeidiog,” gan ychwanegu bod Abersoch eisoes yn dioddef o broblem tai haf.

Hefyd, mae dwy ddeiseb sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau wedi derbyn bron i 3,000 o lofnodion rhyngddyn nhw.

Ddim yn benderfyniad “hawdd”

Fe wnaeth y Cynghorydd Cemlyn Williams, yr Aelod Cabinet tros Addysg ar Gyngor Gwynedd, roi sylw cyn i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud yng nghyfarfod y cabinet heddiw.

“Nid peth hawdd ydi penderfynu ar ddyfodol unrhyw ysgol ac rydym yn deall fod hyn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb sydd ynghlwm â’r ysgol,” meddai.

“Mi fyddwn i’n hoffi diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau ar ddyfodol Ysgol Abersoch gan gynnwys disgyblion, staff a llywodraethwyr ynghyd â’r unigolion sydd wedi cyfrannu at y cyfnodau ymgynghori a gwrthwynebu statudol.

“Mae hi yn destun tristwch pan mae rhaid ystyried dyfodol unrhyw ysgol, serch hynny, mae dyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant.

“Ar ôl ystyried yr holl wrthwynebiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r cyfnod gwrthwynebu statudol yn fanwl, argymhellir cadarnhau’r cynnig i gau Ysgol Abersoch ar ddiwedd 2021.

“Mae awydd clir wedi bod ym mhentref Abersoch i weld parhad yr ysgol, a bydd pob ymdrech i sicrhau fod cyswllt clir yn parhau rhwng cymuned Abersoch ac Ysgol Sarn Bach lle mae nifer o ddisgyblion Abersoch eisoes yn mynychu o Flwyddyn 4 ymlaen.”

Arfbais y sir ar adeilad y cyngor

Ysgol Gynradd Abersoch: penderfyniad “siomedig iawn” yn ôl Cynghorydd Abersoch

Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid ymgynghoriad i gau Ysgol Abersoch

Cau Ysgol Abersoch yn “fradychiad o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg”

“Mae’n frwydr ddyddiol i gadw’r iaith yn fyw oddi fewn i Abersoch,” meddai Cynghorydd Abersoch