Bydd dyn yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio’r athrawes ysgol gynradd Sabina Nessa.

Cafodd Koci Selamaj, 36, o Eastbourne, ei gyhuddo ddydd Llun (27 Medi) o lofruddio Sabina Nessa, 28, yn ardal Kidbrooke yn ne ddwyrain Llundain ar 17 Medi.

Bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Willesden heddiw (28 Medi), ar ôl cael ei arestio yn Eastbourne yn Nwyrain Sussex yn oriau mân y bore ddydd Sul.

Cafodd Sabina Nessa ei lladd wrth gerdded trwy Barc Cator ar ei ffordd i gyfarfod ffrind, a chafodd ei chorff ei ddarganfod 24 awr yn ddiweddarach wrth ymyl canolfan gymunedol yn y parc wedi’i orchuddio â dail.

Roedd hi’n dysgu dosbarth blwyddyn un yn Ysgol Gynradd Rushey Green yn Catford, yn ne ddwyrain Llundain, a chafodd gwylnos er cof amdani ei gynnal nos Wener.

Sabina Nessa

Arestio dyn, 38, ar amheuaeth o lofruddio Sabina Nessa yn Llundain

Cafodd y dyn ei arestio am oddeutu 3 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Medi 26)