Mae aelodau’r fyddin wrth gefn i yrru tanceri tanwydd er mwyn lleddfu’r sefyllfa mewn gorsafoedd petrol, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bydd gyrwyr y fyddin yn cael hyfforddiant arbennig er mwyn paratoi i yrru’r tanceri, tra bydd rhai trwyddedau loriau (HGV) yn cael eu hymestyn er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.
Fe wnaeth gweinidogion gyhoeddi bod trwyddedau ADR, sy’n galluogi cludo newyddau peryglus, yn cael eu hymestyn hefyd er mwyn cynyddu argaeledd gyrwyr.
Daw hyn wedi i nifer o orsafoedd petrol redeg allan o danwydd gan fod gyrwyr wedi dechrau prynu petrol mewn panig yn sgil ofnau y byddai prinder gyrwyr lorïau yn effeithio ar y cyflenwad.
“Mae dynion a menywod ein lluoedd arfog yn barod i leddfu’r pwysau ym maes trafnidiaeth lle mae hynny waethaf,” meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace.
“Dyna pam fy mod i wedi awdurdodi iddyn nhw fod wedi’u paratoi’n well fel eu bod nhw’n barod i ymateb os oes angen.”
“Cyflenwad cryf”
Mae’r sector tanwydd yn disgwyl i’r galw ddychwelyd i lefelau arferol yn y dyddiau nesaf, meddai’r Ysgrifennydd Busnes Kwasi Kwarteng, ond “mae’n gywir ein bod ni’n cymryd y cam rhagofalus, call hwn”.
“Mae gan y Deyrnas Unedig gyflenwad sylweddol o danwydd o hyd, fodd bynnag rydyn ni’n ymwybodol o broblemau gyda’r gadwyn gyflenwi mewn gorsafoedd petrol ac rydyn ni’n cymryd camau i wella’r pwysau fel blaenoriaeth.
“Os oes angen, bydd gweithwyr y fyddin yn darparu capasiti ychwanegol i’r gadwyn gyflenwi fel mesur dros dro i leddfu’r pwysau sydd wedi’i achosi gan gynnydd mewn galw lleol am danwydd.”
Bydd gyrwyr tanceri’r fyddin yn cludo tanwydd i’r llefydd sydd fwyaf ei angen, a chynnig sicrwydd bod digon o gyflenwad, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Bydd trwyddedau ADR oedd i fod i ddod i ben rhwng dydd Llun a 31 Rhagfyr yn ddilys nes 31 Ionawr 2022, meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps.
“Rydyn ni’n dechrau gweld y prynu mewn panig yn arafu gyda mwy o danwydd ar gael nawr mewn mwy o orsafoedd petrol,” meddai Grant Shapps.
“Er bod y rhwydwaith presennol o yrwyr tanceri’n gallu danfon yr holl danwydd sydd ei angen arnom ni rydyn ni wedi cymryd cam ychwanegol a gofyn i’r fyddin helpu i lenwi’r bwlch, tra bod gyrwyr HGV newydd yn dod i’r rhwydwaith diolch i’r mesurau eraill rydyn ni wedi’u cymryd yn barod.”
“Methiant”
Yn ôl llefarydd amddiffyn y Blaid Lafur, John Healy, mae’r cam yn “gyfaddefiad o fethiant gan Lywodraeth sy’n parhau i ddibynnu ar y Fyddin am help”.
“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn rhy araf yn ymateb er gwaethaf misoedd o rybuddion gan yr holl sector,” meddai.
Yn gynharach, roedd Boris Johnson wedi gwrthod gweithredu cynllun i gael y fyddin i gludo tanwydd i orsafoedd petrol a mynnodd Downing Street bod yna “ddigonedd” o betrol.
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice, wedi beio gyrwyr am lenwi’u ceir pan nad oedd angen iddyn nhw.
“Does dim prinder [tanwydd],” meddai.
“Achos y problemau presennol yw’r prynu mewn panig a’r peth pwysicaf yw bod pobol yn dechrau prynu petrol fel y bydden nhw’n ei wneud fel arfer.”
Blaenoriaeth i weithwyr iechyd
Mae arweinwyr meddygol wedi annog gweinidogion i roi blaenoriaeth i weithwyr gofal iechyd gael mynediad at danwydd.
Dywedodd Dr Chaand Nagpaul, cadeirydd cyngor y BMA, y gallai gwasanaethau allweddol gael eu heffeithio os nad yw staff yn gallu cyrraedd eu gwaith oherwydd diffyg petrol.
“Bydd gan bawb eu rhesymau eu hunain dros fod angen llenwi’u ceir, ond os yw’r pympiau’n sych mae yna berygl gwirioneddol na fydd gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn gallu gwneud eu swyddi a chynnig gwasanaeth a gofal hanfodol i bobol sydd ei angen ar frys.”
Er mwyn ceisio datrys yr argyfwng, fe wnaeth Boris Johnson gyhoeddi cynlluniau i ganiatáu i 5,000 o yrwyr lorïau o dramor gael fisas dros dro.
Er hynny, dywedodd Edwin Atema o’r undeb Dutch FNV, sy’n cynrychioli gyrwyr lorïau dros yr Undeb Ewropeaidd, ei fod yn amheus y byddai’r cynllun yn denu digon o yrwyr yn ôl i’r Deyrnas Unedig wedi Brexit.
“Yn y tymor byr dw i’n meddwl ei fod hitio wal,” meddai wrth raglen Today.