Dylai’r galw am betrol ddychwelyd i’r lefelau arferol yn y “dyddiau nesaf”, meddai’r diwydiant tanwydd wrth i weinidogion apelio unwaith eto i fodurwyr roi’r gorau i “brynu mewn panig”.
Mewn datganiad ar y cyd, a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, dywedodd cyflenwyr blaenllaw, gan gynnwys BP, Esso a Shell, y dylai’r pwysau ar garejys ddechrau lleddfu gyda llawer o geir bellach yn cario mwy o betrol na’r arfer.
Yn gynharach fe dynnodd Boris Johnson yn ôl o weithredu cynlluniau i anfon milwyr i gyflenwi tanwydd wrth i Downing Street fynnu bod “digonedd” o gyflenwadau.
Roedd adroddiadau bod Mr Johnson yn ystyried gweithredu ‘Ymgyrch Escalin’ – ymgyrch a luniwyd yn wreiddiol i ddelio ag unrhyw argyfwng ar ôl Brexit heb fargen, i ddefnyddio milwyr i yrru lorïau.
Fodd bynnag, dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog nad oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ddefnyddio’r fyddin, y tu hwnt i gynorthwyo gyda’r ymgyrch i leihau’r oedi gyda phrofion cerbydau trwm.
“Digon o danwydd mewn purfeydd a therfynfeydd”
“Mae digon o danwydd mewn purfeydd a therfynfeydd yn y Deyrnas Unedig, ac fel diwydiant rydym yn gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth i helpu i sicrhau bod tanwydd ar gael i orsafoedd ledled y wlad,” meddai datganiad ar y cyd y cwmnïau.
“Gan fod llawer o geir bellach yn dal mwy o danwydd nag arfer, rydym yn disgwyl y bydd y galw’n dychwelyd i’w lefelau arferol yn y dyddiau nesaf, gan leddfu’r pwysau ar orsafoedd tanwydd.
“Byddem yn annog pawb i brynu tanwydd fel arfer.”
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice, wedi beio modurwyr am lenwi pan nad oedd angen iddynt wneud hynny, ar ôl dyddiau o giwiau hir mewn garejys.
Dywedodd Dr Chaand Nagpaul, cadeirydd cyngor Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), y gallai gwasanaethau hanfodol gael eu taro pe na bai staff yn gallu cyrraedd y gwaith am nad oedden nhw’n gallu llenwi.
“Rhaid i ofal iechyd a gweithwyr hanfodol … cael blaenoriaeth i gael mynediad at danwydd fel y gallant barhau â’u gwaith hanfodol a gwarantu gofal i gleifion.”
Darllen rhagor:
“Mae pobol wedi prynu a phrynu, a hynny sydd wedi creu’r broblem”
Garej betrol wedi bod yn ceisio helpu cwsmeriaid rheolaidd i gael blaenoriaeth wrth lenwi’u ceir