Mae Andy McDonald wedi ymddiswyddo fel ysgrifennydd hawliau cyflogaeth yr wrthblaid heddiw (dydd Llun 27 Medi), gan gyhuddo arweinydd y blaid Lafur o beidio ag anrhydeddu “ein hymrwymiad i bolisïau sosialaidd” ac o rannu’r blaid ymhellach.

Mewn llythyr cynddeiriog, dywedodd yr AS, a fu hefyd yn gwasanaethu o dan ragflaenydd Keir Starmer, Jeremy Corbyn, fod swyddfa’r arweinydd wedi dweud wrtho i ddadlau yn erbyn isafswm cyflog cenedlaethol o £15 yr awr ac yn erbyn tâl salwch statudol ar y cyflog byw.

“Mae hyn yn rhywbeth na allwn ei wneud,” ysgrifennodd Mr McDonald.

Ychwanegodd: “Ymunais â’ch tîm mainc flaen ar sail yr addewidion a wnaethoch yn yr ymgyrch arweinyddiaeth i sicrhau undod o fewn y blaid a chynnal ein hymrwymiad i bolisïau sosialaidd.

“Ar ôl 18 mis o’ch arweinyddiaeth, mae ein mudiad yn fwy rhanedig nag erioed ac nid yw’r addewidion a wnaethoch i’r aelodaeth yn cael eu hanrhydeddu. Dyma’r diweddaraf o lawer.”

Mae’r ymddiswyddiad yn bygwth ymdrechion Keir i ddefnyddio ei gynhadledd wyneb-yn-wyneb gyntaf fel arweinydd i ddiffinio sut beth fyddai llywodraeth Lafur.

A daeth wrth i’r blaid geisio cael y digwyddiad yn Brighton yn ôl ar y trywydd cywir yn dilyn dadlau dros reolau i ethol arweinwyr y dyfodol – newid a basiwyd gan y gynhadledd er gwaethaf gwrthwynebiad o’r chwith.

Mae’r ffrae ddiweddaraf yn dilyn y ffwdan am ymosodiad gan ei ddirprwy, Angela Rayner, ar gabinet Boris Johnson, gan eu galw’n “scum”.

Angela Rayner yn gwrthod ymddiheuro am alw’r Torïaid yn “scum”

Ond mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi ymbellhau oddi wrth y sylwadau

Datganoli yw “cryfder mwya’r Deyrnas Unedig”

Mark Drakeford yn dweud y gallai’r pwerau atal twf mudiadau annibyniaeth