Mae Mark Drakeford yn dweud mai datganoli yw “cryfder mwya’r Deyrnas Unedig”, ac y gallai pwerau datganoledig helpu i atal twf mudiadau annibyniaeth.
Yn ystod ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton heddiw (dydd Llun, Medi 27), dywedodd prif weinidog Cymru fod llywodraeth Boris Johnson yn San Steffan yn “analluog” ac yn “un o’r mwyaf ofnadwy a welsom”.
Awgrymodd y dylai Llafur ar lefel Brydeinig edrych tuag at Gymru a record Llafur mewn llywodraeth ac awdurdodau lleol yma, yn ogystal â gweinyddiaethau Llafur yn Lloegr a’r Alban, er mwyn adeiladu hygrededd ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
“Mae popeth mae Llafur wedi’i gyflawni yng Nghymru, a ledled Lloegr a’r Alban, wedi’i gyflawni yn wyneb un o’r llywodraethau mwyaf ofnadwy a welsom erioed yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Analluog i’r carn, yn awtomatig elyniaethus tuag at unrhyw un nad yw’n rhan eu greddfau adweithiol dwys, gartref neu dramor.”
Mwy o bwerau i gynnal yr Undeb
Dywedodd y byddai diwygio’r Deyrnas Unedig, gan ddatganoli mwy o bwerau, yn ei chadw “gyda’i gilydd trwy gydsyniad”, ac y gallai atal twf mudiadau annibyniaeth sy’n anfodlon â’r drefn bresennol.
“Jyst dychmygwch beth allem ni ei wneud pe bai gennym ni lywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig yn ymroddedig i adnewyddu ac ailadeiladu’r Deyrnas Unedig fel ei bod yn gweithio go iawn i bawb.
“Perthynas newydd sydd wedi’i hadeiladu o amgylch parch i’n gilydd, cyfranogaeth go iawn, un sy’n cydnabod mai datganoli yw cryfder mwya’r Deyrnas Unedig, nid ei chamgymeriad mwyaf, mai ailgyfeirio radical ar bwerau i lefydd lleol yw’r ffordd i gadw’r Deyrnas Unedig ynghyd, gyda’n gilydd drwy gydsyniad.
“Undeb newydd na all neb ond Llafur ei chynnig a gwlad sydd wedi’i hadeiladu eto ar werthoedd Llafur y byddai pobol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig eisiau ac yn dewis bod yn rhan ohoni.”