Mae nifer o fudiadau wedi dod ynghyd i alw ar Mark Drakeford i sefydlu comisiwn annibyniaeth i Gymru yn hytrach na chomisiwn ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.

Daw’r llythyr ar ôl i Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gyhuddo prif weinidog Cymru o “geisio o ddifrif i danseilio cenedligrwydd Prydeinig a chychwyn rhyfel rhethreg ymfflamychol a di-sail at ddibenion mantais etholiadol” ers iddo gael ei ethol yn brif weinidog dair blynedd yn ôl.

Mae’r ddogfen ‘Diwygio ein Hundeb’ yn amlinellu’r newidiadau sydd eu hangen er mwyn cryfhau lle Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, wrth i Mark Drakeford gyfeirio at yr Undeb fel “polisi yswiriant” i Gymru.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr agored at y prif weinidog mae aelodau cyn-Bwyllgor Canolog Yes Cymru, Cefnogwyr Pêl-droed Cymru dros Annibyniaeth, Melin Drafod, AUOB Cymru, Cymdeithas yr Iaith ac Undod.

Yn eu llythyr, maen nhw’n cyfeirio atyn nhw eu hunain fel “mudiadau sy’n cynrychioli safbwyntiau cannoedd o filoedd o bobol yng Nghymru”, ac yn dweud eu bod nhw’n “datgan ein gwrthwynebiad i’ch comisiwn cyfansoddiadol arfaethedig”.

‘Sgwrs genedlaethol’

Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i ddweud bod “y dydd yn dod yn fuan pan ddaw ein gwlad yn annibynnol”, a bod “hynny’n gynyddol glir i bawb”.

Mae’n nodi bod un o bob tri o blant Cymru mewn tlodi, bod “canran sylweddol o’n dinasyddion yn anwybodus o natur ein system ddemocrataidd”, a bod San Steffan yn methu mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd o ganlyniad i’w “cefnogaeth ddiwyro i gorfforaethau mawrion”.

Maen nhw’n cyhuddo’r wladwriaeth Brydeinig o fod â “hanes o ryfeloedd anghyfreithlon” ac o fod â “chwant am dorri cytundebau rhyngwladol” a bod hynny’n gwneud y Deyrnas Unedig yn “ddylanwad negyddol ar y llwyfan rhyngwladol”.

Mae’r llythyr wedyn galw am “sgwrs genedlaethol sy’n rhoi ei sylw’n uniongyrchol, ac ar frys, ar sut y gallwn ni fel pobol sicrhau bod Cymru yn wlad ffyniannus, flaengar a theg pan ddaw ein hannibyniaeth”.

Dywed y llythyr ymhellach mai “y broblem yw San Steffan, nid yr ateb”.

“Yr ateb,” meddai’r llythyr, “yw rhyddid llwyr ar gyfer pobol a chymunedau Cymru i ni allu dewis ein trywydd ein hunain, ac i gymryd ein lle fel cenedl ochr yn ochr ag eraill ar lwyfan gwleidyddol y byd”.

‘Diwygio ein Hundeb’

Mae’r llythyr hefyd yn beirniadu’r ddogfen bolisi ‘Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU’, sy’n gofyn y cwestiwn “Sut mae gwneud ein Hundeb yn gryf a hirhoedlog?”

Ond mae’r mudiadau’n dweud nad oes “modd i ni roi ein ffydd mewn prosiect sy’n dechrau o’r fan honno”, ac yn cyhuddo Mark Drakeford o “chwarae gêm”.

“Gwyddom, a daw pobol Cymru i weld, eich bod yn chwarae gêm: o geisio edrych ddwy ffordd ar y cwestiwn o annibyniaeth i’n gwlad, a hynny am resymau gwleidyddol, yn lle’r hyn sydd orau i’n pobol a’n cymunedau,” meddai.

“Fodd bynnag, nid oes modd i chi guddio’r hyn sydd mewn du a gwyn — rydych chi’n benderfynol o achub eich hen ‘undeb’, nid adeiladu Cymru annibynnol newydd ein dyfodol.

“Mae unrhyw broses a gaiff ei sefydlu gan eich llywodraeth chi yn mynd i fod yn brosiect unoliaethol gyda nod o achub undeb hynafol sy’n prysur dadfeilio.

“Mae’n bur debyg y byddwch yn penodi pobl barchus, lleisiau’r sefydliad, i arwain eich comisiwn, yn lle cynnal trafodaeth sydd wedi ei harwain gan bobl gyffredin a mudiadau ar lawr gwlad.

“Fel mudiadau sy’n annibynnol ar y llywodraeth, nid ydym am i arian trethdalwyr Cymru gael ei wario ar y broses hon gan eich bod wedi bod yn gwbl glir am safbwynt unoliaethol eich llywodraeth.

“Yn lle, fe fyddwn ni, fel mudiadau ar y cyd, yn edrych i ddefnyddio’r adnoddau a’r gallu sydd gyda ni er mwyn cynnal y sgwrs agored am annibyniaeth y mae pobol Cymru yn ei haeddu.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rhoddodd yr etholiad fis Mai diwethaf fandad i’r Llywodraeth hon sefydlu Comisiwn ar y Cyfansoddiad i ystyried dyfodol Cymru, gan edrych ar y diwygiadau sydd eu hangen i roi grym a budd i Gymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd yn mynd ati i drafod gyda phobol Cymru, yn enwedig y rhai nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn prosesau fel hyn.

“Er bod Llywodraeth Cymru o’r farn o hyd yw mai setliad datganoli cryf o fewn Teyrnas Unedig gref sydd orau o ran buddiannau Cymru, bydd y Comisiwn yn un annibynnol a bydd yn llunio’i gasgliadau ei hun.

“Bydd rhagor o wybodaeth am sut y bydd yn gweithredu yn cael ei chadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf.”

 

Cyhuddo Mark Drakeford o danseilio cenedligrwydd Prydeinig

Mae Llafur yn ceisio ennyn cefnogaeth cenedlaetholwyr yng Nghymru, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig