Mae golffwyr yr Unol Daleithiau’n dathlu ar ôl ennill Cwpan Ryder wrth sicrhau’r fuddugoliaeth fwyaf erioed, o 19-9, dros Ewrop yn Wisconsin.

Roedd ganddyn nhw flaenoriaeth o 11-5 ar ddechrau’r senglau ar y diwrnod olaf, ac roedd angen i Ewrop ragori ar y perfformiad ym Medinah yn 2012 os oedden nhw am daro’n ôl.

Dim ond tri phwynt a hanner oedd eu hangen ar y tîm cartref ac er i’r Gwyddel Rory McIlroy guro Xander Schauffele yn y gêm agoriadol, chafodd yr Unol Daleithiau fawr o drafferth wrth iddyn nhw bentyrru’r pwyntiau mewn un gêm ar ôl y llall.

Roedden nhw’n agos iawn at y fuddugoliaeth pan wnaeth Scottie Scheffler guro John Rahm, gyda Patrick Cantlay hefyd yn trechu Shane Lowry.

Daeth record ddi-guro Sergio Garcia i ben dan law Bryson DeChambeau i’w gwneud hi’n 14-6, ac roedd y fuddugoliaeth yn nwylo Collin Morikawa yn erbyn Viktor Hovland tra bod wyth gêm yn dal ar y gweill.

Wrth i Dustin Johnson guro Paul Casey, dyma’r tro cyntaf i Americanwr ennill o 5-0 ers Larry Nelson yn 1981, tra bod buddugoliaethau hefyd i Brooks Koepka, Justin Thomas a Daniel Berger.

Roedd buddugoliaethau Ewropeaidd i Ian Poulter dros Tony Finau ac i Lee Westwood dros Harris English, tra bod Tommy Fleetwood a Jordan Spieth yn gyfartal.

Fe wnaeth Berger guro Matt Fitzpatrick, a ddylai fod wedi ennill pwynt.

Ymateb tîm Ewrop

“Rydyn ni wedi cael siom ond chwaraeodd yr Unol Daleithiau’n dda,” meddai Padraig Harrington, capten Ewrop.

“Chwaraeon nhw’n well na ni, roedden nhw’n dîm cryf oedd wedi cael eu cynllun yn iawn ac fe gawson nhw fomentwm.

“Roedden ni bob amser yn gwybod y byddai’n dipyn o her.

“Dw i’n gyfforddus iawn gyda’r holl benderfyniadau. Mae’n gysur bach ond mae e’n gysur.”

Roedd Rory McIlroy yn emosiynol dros ben ar ddiwedd y gystadleuaeth ac yn ei ddagrau wrth gael ei gyfweld ar y teledu.

“Dw i’n caru bod yn rhan o’r tîm hwn ac yn difaru nad oeddwn i wedi gallu gwneud mwy drostyn nhw yr wythnos hon,” meddai.

“Dw i’n falch i fi roi pwynt ar y bwrdd iddyn nhw, ond alla i jyst ddim aros i roi cynnig arall ar hyn.”

Ymateb tîm yr Unol Daleithiau

“Mae hyn yn sicr yn wahanol,” meddai’r Americanwr Patrick Cantlay.

“Fe wnes i ddihuno y bore yma ac yn ceisio dweud wrth y bechgyn, gadewch i ni gyrraedd 20 o bwyntiau oherwydd mae hwn yn mynd i fod yn gyfnod nesaf tîm Cwpan Ryder ar gyfer tîm yr Unol Daleithiau.

“Mae gyda ni lawer o fechgyn ifainc a dw i’n credu y byddan nhw ar dimau am amser hir, ac roeddwn i eisiau anfon neges.

“Dw i’n credu bod y bois ifainc ar y tîm hwn yn dod ymlaen yn dda iawn. Mae pawb yn dod ymlaen.

“Mae’r awyrgylch yn ysgafn ond dw i’n gwybod fod gan bawb reddf i fynd amdani ac rydyn ni am ddod â hynny i’r gwpan yn y dyfodol”

Mae Steve Stricker, capten yr Unol Daleithiau, wedi canmol undod ei dîm, hyd yn oed DeChambeau a Koepka, dau gyd-chwaraewyr sydd wedi bod yn dadlau’n ddiweddar.

“Roedd ganddyn nhw her yr wythnos hon ac fe allech chi ddweud hynny, chwaraeon nhw’n wych ac fe ddaethon nhw ynghyd,” meddai Stricker.

“Hynny yw, roedd Brooks a Bryson eisiau chwarae gyda’i gilydd, dyna’r graddau y daethon nhw ynghyd.

“Mae hynny’n dangos cryn dipyn am y tîm cyfan hwn.

“O’r diwrnod cyntaf, roedd yn fater o baratoi’n well [nag Ewrop], cael y bois yma, eu cael nhw ar yr un dudalen.

“Mae hwn yn gyfnod newydd i golff yn yr Unol Daleithiau.

“Maen nhw’n ifanc. Mae ganddyn nhw lawer o angerdd, llawer o egni, llawer o gêm.

“Maen nhw jyst mor dda.”