Mae’r Cymro Gerwyn Price wedi ennill ei ail dlws Ewropeaidd y mis hwn, ar ôl codi Tlws Dartiau Gibraltar.
Daw’r fuddugoliaeth ar ôl iddo fe ennill Tlws Dartiau Hwngari ychydig wythnosau yn ôl.
Yn y rownd derfynol y tro hwn, fe gurodd e Mensur Suljovic yn gampus o 8-0 neithiwr (nos Sul, Medi 26) i ennill y tlws a £25,000.
Curoodd y chwaraewr o Went Florian Hempel yn yr ail rownd ddydd Sadwrn (Medi 25), ac roedd gyda fe gyfartaledd tri dart o 102 yn erbyn Damon Heta yn rownd yr 16 olaf.
Curodd e Michael van Gerwen yn rownd yr wyth olaf, cyn trechu Nathan Aspinall o 7-3 i gyrraedd y rownd derfynol.
Ond doedd Suljovic ddim ar ei orau o bell ffordd, a manteisiodd Price ar y ffaith fod ei wrthwynebydd yn methu taflu dyblu dro ar ôl tro i ennill gemau.
Yn y tair gêm olaf, doedd ond angen 11, 12 a 12 o ddartiau i ennill a chipio’r fuddugoliaeth wrth iddo ennill cystadleuaeth Ewropeaidd am y pumed tro.
Bydd Price yn anelu nesaf i gadw ei afael ar ei deitl Grand Prix y Byd yng Nghaerlŷr o Hydref 3-9, a hynny wrth iddo fe barhau i wella o anaf i’w fraich oedd wedi ei orfodi i dynnu’n ôl o’r Meistri Nordaidd yr wythnos ddiwethaf.