Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio strategaeth chwe blynedd, ‘Ein Cymru’, i gynyddu nifer y bobol sy’n chwarae pêl-droed ac i wella cyfleusterau er mwyn ateb y galw yng Nghymru.
Yn ôl Noel Mooney, y prif weithredwr newydd, mae angen gwella isadeiledd pêl-droed ar lawr gwlad er mwyn dod yn un o genhedloedd pêl-droed mawr y byd a sicrhau bod yna lwybrau clir hyd at y timau cenedlaethol llawn.
Y gobaith yw y bydd y strategaeth ar gyfer 2021-2026 yn helpu i dyfu’r gêm yn gyflym, gan wella pa mor gynhwysol, hygyrch a llwyddiannus yw’r gêm i bawb ar y cae ac oddi arno.
Nod y Gymdeithas yw denu 120,000 o bêl-droedwyr cofrestredig yn ystod y cyfnod hwn, dyblu maint gêm y merched a sicrhau bod cyfleusterau ar lawr gwlad yn ddigon da i gyrraedd y nod.
Ers lansio’r strategaeth flaenorol yn 2015, mae tîm cenedlaethol y dynion wedi cyrraedd yr Ewros ddwywaith, tra bod tîm y merched ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd ar hyn o bryd.
Mae’r cynghreiriau hefyd wedi cael eu hailstrwythuro’n ddiweddar i’w gwneud nhw’n fwy cystadleuol.
Ymateb y prif weithredwr a’r llywydd
“Mae cymaint o gefnogaeth yng Nghymru i bêl-droed, felly dyma’r adeg i alinio ein hadnoddau i ddod yn un o genhedloedd pêl-droed mawr y byd,” meddai Noel Mooney.
“Rydym yn ceisio rhagoriaeth ar y cae ac oddi arno, lle mae pêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn gyfystyr â pherfformiad uchel.
“Rydym wedi nodi chwech o bileri strategol a byddwn yn cyflwyno’r rhain gyda’n partneriaid i greu Cymru hapusach, iachach a mwy llwyddiannus.
“Er gwaetha’r cariad mawr at bêl-droed yng Nghymru, mae’n amlwg nad yw’n cael ei adlewyrchu yn ein cyfleusterau ar lawr gwlad, y mae angen eu gwella, ac fe fydd angen i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ynghyd â’n partneriaid, ddangos arweiniad a dewrder i gyrraedd y safonau sy’n ofynnol gennym.”
Yn ôl Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, does dim modd i’r Gymdeithas weithredu ar ei phen ei hun.
“Ein Cymru yw enw ein strategaeth, ac mae’n golygu bod angen partneriaid arnom fel Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, awdurdodau lleol a busnesau i gydweithio i helpu i esgor ar gyfnod yng Nghymru fel cenedl bêl-droed fawr,” meddai.
“Mae Cymru, fel unrhyw le arall, ar ei ffordd tuag at adferiad o coronafeirws.
“Os ydyn ni am ailadeiladu’n ôl yn well, yna mae iechyd a lles pobol yn sicr yn rhan o hynny, ac mae hynny’n cynnwys sicrhau bod unrhyw un yn gallu cymryd rhan yn hoff gêm ein cenedl yn eu hardal leol ac yn genedlaethol.”