Mae Clwb Criced Swydd Gaerloyw wedi ymddiheuro yn dilyn honiadau o hiliaeth gan un o gyn-chwaraewyr y sir.
Yn y rhaglen deledu ‘You Guys Are History’ ar Sky Sports ar Fedi 3, datgelodd David ‘Syd’ Lawrence, cyn-fowliwr cyflym Swydd Gaerloyw, ei fod e wedi cael ei sarhau’n hiliol yn ystod ei yrfa.
Roedd y rhaglen yn rhoi sylw i brofiadau chwaraewyr du yn y byd criced yng Nghymru a Lloegr.
Roedd Lawrence ymhlith y cyn-chwaraewyr a gafodd eu cyfweld, ac fe gyfeiriodd at un achos o hiliaeth pan oedd e’n chwarae yn ei gêm Bencampwriaeth oddi cartref gyntaf yn 1981.
Dywedodd e ei fod e’n destun sylwadau hiliol mewn gêm arall hefyd, ond doedd y clwb ddim wedi ymchwilio i’r mater ar y pryd.
Dywed Clwb Criced Swydd Gaerloyw eu bod nhw wedi cysylltu â fe yn dilyn y rhaglen, a bod y cadeirydd a’r prif weithredwr wedi trafod y sefyllfa gyda fe.
Dywed y clwb fod ei brofiadau “yr un mor annerbyniol bryd hynny ag yr ydyn nhw nawr”, a’u bod nhw’n “ymddiheuro’n ddi-ben-draw” iddo fe ac i unrhyw un arall sydd wedi cael profiadau tebyg o fewn y clwb ar hyd y blynyddoedd.
“Rydym yn benderfynol na ddylai neb orfod profi’r fath ymddygiad a byddwn yn parhau i groesawu adborth gan chwaraewyr a chyn-chwaraewyr wrth ddatblygu amgylchfyd croesawgar a chynhwysol,” meddai’r clwb mewn datganiad.
“Hoffem ddiolch i David am fod yn agored, yn onest ac yn ddewr wrth ddod ymlaen a siarad.”