Bydd cyn-fyfyrwraig o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Rhwyfo Arfordirol y Byd ym Mhortiwgal yr wythnos hon.

Fe fydd Swyn Williams o Dinas Cross, Sir Benfro yn cynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth rhwyfo i’r parau cymysg gyda Tom Brain o Abertawe.

Cyrhaeddodd Swyn Williams y rowndiau terfynol ym mhencampwriaethau’r byd ym Monaco yn 2016 ac yng Nghanada yn 2018 hefyd.

Cychwynnodd ei diddordeb mewn rhwyfo pan oedd hi’n 14 oed, ac erbyn hyn mae hi’n aelod o Glwb Rhwyfo Caerfyrddin.

Er mai rhwyfo arfordirol yw ei hoff ddull, mae hi’n hoff iawn o rwyfo afon hefyd.

“Gobeithio’r gorau”

Mae ei gobeithion yn uchel ar gyfer y bencampwriaeth eleni, ond mae Swyn Williams yn gobeithio gallu cystadlu flwyddyn nesaf hefyd gan y bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ei stepen drws yn Llanusyllt, Sir Benfro.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gystadlu eleni eto ym mhencampwriaethau’r byd. I ni’n gobeithio cyrraedd y rowndiau terfynol,” meddai Swyn Williams.

“Dydyn ni ddim yn siŵr beth i ddisgwyl allan ym Mhortiwgal, ond i ni’n gwybod dim ond ein bod ni’n rhoi’r cyfan i mewn i’r rowndiau rhagbrofol, yna’r cyfan allwn ni wneud yw gobeithio’r gorau.”

Astudiodd Swyn Williams gwrs gradd BA Addysg Gorfforol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan ddechrau yn 2016.

“Ro’n i’n gwybod fy mod i am astudio rhywbeth yn ymwneud â’r byd chwaraeon yn y Brifysgol,” meddai.

“Es i i’r diwrnod agored yn y Drindod Dewi Sant, a nes i rili joio fe… y syniad o fod yng Nghymru yn agos i gytre’, a’r cyfle i astudio ambell ran o’n ngradd drwy gyfrwng y Gymraeg, ’na beth o ni’n chwilio amdano ar y pryd.”

Ers iddi ddarganfod ei bod hi wedi cael lle ym mhencampwriaethau’r byd, mae agweddau o’i chwrs gradd wedi ei chynorthwyo ar hyd y daith.

“Roedd hi wedi bod yn galed dros y blynydde i fi ddod o hyd i ryw strwythur penodol i ymarfer, gan fod dim hyfforddwyr ’da ni o fewn y byd rhwyfo arfordirol.

“Dyw’r gamp ddim yn cael unrhyw gymorth ariannol, ond roedd astudio chwaraeon yn y Brifysgol wedi rhoi gwell syniad i fi ar sut i strwythuro sesiynau, pryd i wthio fy nghorff a phryd i ymlacio.

“Yn bendant mae’r cwrs wedi datblygu fy niddordeb i ddeall y gamp yn well.”

Erbyn hyn, mae Swyn Williams yn dilyn rhaglen hyfforddi lem, ac mae wedi bod yn gwneud naw sesiwn ymarfer yr wythnos, naill ai ar y dŵr, ar beiriant rhwyfo neu yn y gampfa.

“Model rôl arbennig”

Dywedodd Dylan Blain, Cyfarwyddwr Academaidd Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored Prifysgol y Drindod Dewi Sant, ei bod hi’n “hyfryd” gweld Swyn Williams yn “parhau i ragori”.

“Mae’n hyfryd gweld Swyn yn parhau i ragori o fewn chwaraeon ers graddio o’n gradd BA Addysg Gorfforol,” meddai Dylan Blain.

“Roedd hi’n fyfyriwr gwych ac yn fodel rôl arbennig i fyfyrwyr sydd yn dilyn gweithgareddau chwaraeon perfformiad uchel ochr yn ochr â’u hastudiaethau.

“Rydym i gyd yn hynod falch o’i gweld yn mynd o nerth i nerth ers graddio ac edrychwn ymlaen at ddilyn ei llwyddiannau yn y dyfodol.”