Kiran Carlson, y batiwr ifanc o Gaerdydd wnaeth arwain tîm criced Morgannwg i fuddugoliaeth yng Nghwpan Royal London, yw Chwaraewr y Flwyddyn Orielwyr San Helen.

Cafodd ei wobrwyo mewn cinio yng ngwesty’r Towers yn Jersey Marine neithiwr (nos Lun, Medi 27).

Enillodd e ddwy wobr ar y noson, gan gipio Chwaraewr y Flwyddyn Clwb Criced Morgannwg hefyd.

Fe hefyd oedd prif sgoriwr y sir yn y Bencampwriaeth, gyda 928 o rediadau ar ôl iddo ganolbwyntio’n llawn amser ar griced ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd.

Sgoriodd e 82 wrth i Forgannwg guro Durham yn rownd derfynol Cwpan Royal London yn Trent Bridge, y tro cyntaf iddyn nhw ennill cwpan undydd.

Cafodd Tom Cullen, y wicedwr wrth gefn fu’n chwarae yn y gystadleuaeth yn absenoldeb y capten Chris Cooke, ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yr Ail Dîm yr Orielwyr, a’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd, Tegid Phillips, gipiodd wobr y chwaraewr heb gap sydd wedi gwella fwyaf.

Derbyniodd Cullen wobr yr Ail Dîm a Phillips wobr yr Academi gan Forgannwg hefyd.

Fe wnaeth Morgannwg enwi David Lloyd, y chwaraewr amryddawn o’r gogledd, yn Chwaraewr y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth, wrth daro canred a phum hanner canred ar ei ffordd i gyfanswm o 828 o rediadau wrth agor y batio mewn gemau pedwar diwrnod, a chipio 21 o wicedi.

Joe Cooke gafodd ei enwi’n Chwaraewr Undydd y Flwyddyn gan y sir, ar ôl gorffen ar frig y rhestr wicedi yng Nghwpan Royal London gydag 20 o wicedi mewn deg gêm wrth helpu’r sir i gyrraedd y rownd derfynol yn Trent Bridge.

Sgoriodd e 66 heb fod allan yn y gêm gyn-derfynol a chipio pum wiced – y tro cyntaf i chwaraewr Morgannwg gyflawni’r nod ers Peter Walker yn 1970.

Morgannwg yn serennu heb y sêr

Alun Rhys Chivers

Mae aelod o dîm criced Morgannwg yn dweud ei fod e’n gobeithio y gall ennill Cwpan Royal London esgor ar gyfnod llwyddiannus yn hanes y clwb
Morgannwg

Morgannwg yn bencampwyr Cwpan Royal London

Maen nhw wedi curo Durham o 58 rhediad yn y gystadleuaeth 50 pelawd
Kiran Carlson a Callum Taylor

Canred Kiran Carlson, ei ail yn y gêm, yn achub Morgannwg rhag embaras yn erbyn Sussex

Y Cymro cyntaf i sgorio canred yn y ddau fatiad mewn gêm Bencampwriaeth ers Jonathan Hughes yn 2005
Joe Cooke

Joe Cooke yn serennu wrth i Forgannwg gyrraedd ffeinal cwpan undydd

66 heb fod allan gyda’r bat ar ôl cipio pum wiced am 61 i drechu Essex yng Nghaerdydd, a Morgannwg yn y rownd derfynol am y tro cyntaf ers 2013

Y cricedwr eco-gyfeillgar

Alun Rhys Chivers

“Byddai’n wych gweld y byd criced yn arwain yr esiampl honno a dweud: ‘Awn ni’n figan’”