Mae disgwyl i Gareth Bale fod yn absennol oherwydd anaf pan fydd rheolwr Cymru Robert Page yn enwi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac Estonia heddiw (28 Medi).

Mae’r ymosodwr, 32, wedi colli pum gêm olaf Real Madrid gyda’r hyn a ddisgrifiodd eu rheolwr Carlo Ancelotti fel anaf “pwysig”.

Roedd disgwyl i gapten Cymru ennill ei 100fed cap yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn Prague ddydd Gwener (8 Hydref).

Fodd bynnag, mae yna newyddion da gan fod disgwyl i Aaron Ramsey ddychwelyd i’r garfan.

Daeth y chwaraewr canol cae, 30, oddi ar y fainc i Juventus wrth iddyn nhw drechu Sampdoria 3-2 yn Serie A.

Methodd dair gêm Cymru ym mis Medi gydag anaf.

Mae Cymru’n drydydd yng Ngrŵp Rhagbrofol E, gyda’r un nifer o bwyntiau â’r Weriniaeth Tsiec, ond naw pwynt y tu ôl Wlad Belg – sydd ar y brig.

Byddan nhw’n herio Estonia oddi cartref ddydd Llun (11 Hydref), cyn teithio i Prague erbyn dydd Gwener (8 Hydref).