Mae Gareth Bale allan o garfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac Estonia gydag anaf.

Mae’r ymosodwr, sy’n 32 oed, wedi colli pum gêm olaf Real Madrid gyda’r hyn a ddisgrifiodd Rob Page fel anaf “sylweddol”.

Roedd disgwyl i gapten Cymru ennill ei 100fed cap yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn Prague ddydd Gwener (Hydref 8).

Mae Aaron Ramsey yn ôl yn y garfan ar ôl colli’r gêm gyfeillgar yn y Ffindir a’r gemau rhagbrofol yn erbyn Belarws ac Estonia fis diwethaf.

Dywedodd Page fod anaf Bale mor ddrwg nes ei fod yn ofni na fydd ar gael ar gyfer rownd nesaf gemau rhagbrofol Cymru ym mis Tachwedd, er ei fod bellach yn hyderus na fydd hynny’n wir.

“Rydym mewn cysylltiad agos ag ef i weld sut mae’n datblygu a sut mae pethau’n datblygu,” meddai’r rheolwr.

“Mae’r gwersyll yma wedi dod yn rhy fuan iddo yn anffodus.

“Yn wreiddiol, roeddem yn poeni y gallai fethu gwersyll mis Tachwedd hefyd – dyna pa mor ddifrifol yw’r anaf.

“Ond diolch byth, mae’n gwella’n gyflymach nag yr oeddem yn ei ragweld.

“Rydym yn eithaf sicr nawr y bydd yn holliach erbyn hynny nawr.

“Ond fel gydag unrhyw anaf, gallwch gynllunio cymaint ag y dymunwch ond ni allwch fyth ei warantu.”

Cymryd “gofal ychwanegol” o Ramsey

Mae Rob Page yn hyderus na fydd Aaron Ramsey yn tynnu’n ôl o’r garfan a datgelodd y bydd Cymru’n cymryd “gofal ychwanegol” o’r gŵr 30 oed.

Mae Adam Davies, a gafodd ei orfodi i dynnu allan o’r garfan flaenorol ar ôl profi’n bositif am Covid-19, yn dychwelyd ynghyd â Kieffer Moore, ymosodwr o Gaerdydd, a fethodd y tair gêm ar ôl bod mewn cysylltiad agos â gôl-geidwad Stoke City.

Ymhlith y chwaraewyr eraill sy’n dychwelyd mae Ethan Ampadu, Neco Williams a David Brooks, tra gallai Connor Roberts chwarae am y tro cyntaf ers Ewro 2020.

Dydy cyn-amddiffynnwr Abertawe wedi ymddangos eto i Burnley ar ôl cael llawdriniaeth cyn iddo symud i’r clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Mark Harris, ymosodwr Caerdydd, yn y garfan ar ôl ennill ei gap cyntaf fel eilydd yn y fuddugoliaeth o 3-2 yn Rwsia fis diwethaf.

Does dim lle i Ben Cabango, amddiffynnwr Abertawe, er ei fod e ar gael.

Sorba Thomas yn “haeddu ei le”

Mae Sorba Thomas, asgellwr Huddersfield, yn ymuno â charfan Cymru am y tro cyntaf, gyda Page yn dweud ei fod yn “haeddu ei le”.

Dim ond ym mis Ionawr 2021 wnaeth y gŵr o Lundain, sy’n gallu chwarae i Gymru gan fod ei fam yn dod o Gasnewydd, ymuno â’r Terriers o Boreham Wood yn y Gynghrair Genedlaethol.

Enillodd wobr chwaraewr y mis i Bencampwriaeth ym mis Awst ar ôl sgorio un a chreu pedair gôl.

“Fy nod yw parhau i berfformio, parhau i helpu Huddersfield Town i gael pwyntiau ar y bwrdd a gobeithio gwthio i garfan Cymru hefyd,” meddai wrth dderbyn y wobr.

Tua mis yn ddiweddarach, cafodd ymateb da iawn gan y Cymry ar ôl newid ei gerdyn FIFA personol.

Roedd data personol Sorba Thomas yn cynnwys logo baner Lloegr, er i’r llanc 22 oed blastro baner Cymru dros ei ben.

Roedd capsiwn ei lun a bostiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud: “Dydw i ddim yn hapus gyda hyn.

“Mae lot angen newid fan hyn.”

Mae Rob Page yn sicr yn edrych ymlaen at weithio gyda fe.

“Rwy’ wedi bod i’w wylio’n bersonol ychydig o weithiau ac mae’n haeddu ei le yn y garfan,” meddai.

“Wnaeth pethau ddim mynd yn wych iddo’n gynnar yn ei yrfa.

“Roedd yn Academi West Ham ac fe gafodd ei ryddhau a disgyn allan o’r gynghrair bêl-droed, felly nid oedd ofn gostwng ychydig o lefelau i adfer ei yrfa a dechrau eto.

“Mae’n haeddu llawer iawn o glod am hynny, i fynd i Boreham Wood a chael pedwar neu bum tymor yno a chwarae’n dda iawn, yna mae Huddersfield yn ei gymryd.

“Roedd i mewn ac allan o’r tîm tuag at ddiwedd y tymor diwethaf, ond mae wedi dechrau’r tymor newydd ar dân.

“Mae’n gwneud enw iddo’i hun a bydd yn braf gweithio gydag ef ac edrych arno’n fanwl.”

Sefyllfa Cymru yn y grŵp

Mae Cymru’n drydydd yng Ngrŵp E yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, gyda’r un nifer o bwyntiau â’r Weriniaeth Tsiec, ond naw pwynt y tu ôl Wlad Belg sydd ar y brig.

Byddan nhw’n herio Estonia oddi cartref ddydd Llun (Hydref 11), ar ôl teithio i Prague ddydd Gwener (Hydref 8).

Y garfan

Wayne Hennessey, Daniel Ward, Adam Davies

Chris Gunter, Ben Davies Tottenham Hotspur, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Tom Lockyer, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies

Aaron Ramsey, Joe Allen, Jonny Williams, Ethan Ampadu, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Matthew Smith, Dylan Levitt

Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris, Sorba Thomas