Mae Paul Bodin, rheolwr tîm dan 21 Cymru, yn disgwyl i Jack Vale danio eto yn ystod y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn Moldofa a’r Iseldiroedd.

Sgoriodd Vale, sy’n 20 oed, hatric yn y fuddugoliaeth o 4-0 oddi cartref yn erbyn Bwlgaria ddechrau’r mis – un gôl oddi ar ei droed chwith, un oddi ar ei droed dde a’r llall oddi ar ei ben.

Mae e bellach wedi symud o Blackburn yn y Bencampwriaeth i Halifax yn y Gynghrair Genedlaethol ac wedi cael anaf i’w ffêr.

“Ond mae e’n awyddus iawn i ymuno ar ôl ei hatric arbennig,” meddai Bodin.

“Troed chwith, troed dde a pheniad – yr hatric perffaith!

“Mae e’n dal i ddysgu ac mae ganddo fe gryn botensial, ond pan fydd e’n perfformio fel y gwnaeth e yn erbyn Bwlgaria, yna mae e’n chwaraewr sydd â chryn allu.

“Os gall e barhau i berfformio fel yna, bydd y dyfodol yn llewyrchus iawn iddo fe ac i ni.”

Y garfan

Mae Brandon Cooper, amddiffynnwr canol Abertawe, yn dychwelyd i’r garfan ar ôl bod yn aelod o’r brif garfan fis diwethaf.

Mae Luke Jephcott a Terry Taylor hefyd yn dychwelyd ar ôl bod allan oherwydd Covid-19, tra bod Siôn Spence yn dychwelyd ar ôl cael ei wahardd am un gêm.

Y garfan: G Ratcliffe (Caerdydd), N Shepperd (Brentford), D Barden (Livingston, ar fenthyg o Norwich), B Sass-Davies (Crewe), M Boyes (Lerpwl), B Cooper (Abertawe), E Jones (Hartlepool, ar fenthyg o Stoke), R Astley (Everton), O Beck (Lerpwl), F Stevens (Brentford), S Spence (Bristol Rovers, ar fenthyg o Crystal Palace), T Taylor (Burton), K Patten (Caerdydd), N Huggins (Sunderland), S Bowen (Caerdydd), S Pearson (Bristol City), J Adams (Brentford), R Hughes (Everton), J Vale (Halifax, ar fenthyg o Blackburn), L Jephcott (Plymouth), I Davies (Caerdydd), D Williams (Abertawe).