Mae Dwayne Peel, prif hyfforddwr rhanbarth rygbi’r Scarlets, yn dweud bod y tîm wedi cosbi eu hunain wrth golli o 26-22 ar benwythnos cynta’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yng Nghaeredin.

Cipiodd yr Albanwyr fuddugoliaeth bwynt bonws yng ngêm gyntaf Mike Blair yn brif hyfforddwr.

Cael a chael oedd hi yn Stadiwm Dam Health ac fe ddylai’r Scarlets fod wedi manteisio ar sawl cyfle i fynd adref â mwy na phwynt bonws am golli o lai na saith pwynt.

Ond roedd amddiffyn Caeredin yn rhy gryf yn dilyn perfformiad ymosodol campus gan y chwaraewyr newydd Henry Immelman a Ben Vellacott, yn ogystal â’r chwaraewr profiadol Darcy Graham.

Sgoriodd yr asgellwr ddau o’r pedwar cais, gyda Blair Kinghorn yn cipio un a thri throsiad, a Mark Bennett hefyd yn croesi.

Daeth ceisiau’r Scarlets gan Steff Evans, Kieran Hardy a Johnny McNicholl, tra bod Dan Jones wedi sgorio cic gosb a throsiad, gyda’r eilydd Sam Costelow hefyd yn ychwanegu trosiad.

Methu manteisio ar gyfleoedd

Cyfaddefodd Dwayne Peel nad oedd y Scarlets wedi helpu eu hunain yn ystod y gêm, wrth iddyn nhw fethu â manteisio ar y cyfleoedd wnaethon nhw eu creu i sgorio.

Fe wnaeth camgymeriadau ar yr adegau anghywir gostio’n ddrud iddyn nhw.

“Dechreuon ni’n eitha’ da ac roedden ni’n rhwystredig ein bod ni wedi’u gadael nhw i mewn i’r gêm trwy wallau twp, yn enwedig yng nghanol y gêm,” meddai.

“Fe wnaethon ni roi cyfleoedd a phob clod i Gaeredin, cymeron nhw y cyfleoedd hynny’n dda.

“Dywedon ni yn yr ystafell newid wedyn fod llawer o’r rhesymau am y golled honno’n rhai ni ein hunain.

“Byddwn ni’n edrych ar y gêm, byddwn ni’n beirniadu’n hunain ac yn siomedig gyda’n camgymeriadau, ond rydyn ni hefyd yn gwybod fod digon o bethau positif yn y perfformiad hwnnw.”