Tarodd Stockport yn ôl i guro Wrecsam o 2-1 yn Edgeley Park.

Rhwydodd Paddy Madden a Ryan Rydel i sicrhau’r triphwynt.

Ond Wrecsam aeth ar y blaen ar ddechrau’r gêm, wrth i Paul Mullin sgorio yn ail funud y gêm wrth daro’r bêl dros y golwr ar ôl i bêl hir ei golwr ei hun, Rob Lainton, ei ddarganfod.

Roedd hi’n 1-1 pan wnaeth cic gornel ddarganfod Madden, a hwnnw’n sgorio’i gôl gyntaf y tymor hwn.

Ond roedd siom i Wrecsam ddeng munud cyn y chwiban olaf, wrth i Ryan Croasdale ergydio’n aflwyddiannus cyn i’r bêl adlamu’n ôl i lwybr Rydel i gipio’r triphwynt.