Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud bod ei dîm wedi dechrau’n dda cyn iddyn nhw crasfa o 5-1 oddi cartref yn Blackburn.
Sgoriodd Ben Brereton-Diaz hatric wrth i’r Adar Gleision chwalu, gan arwain at gwestiynau am ddyfodol y rheolwr.
Aeth Blackburn ar y blaen wrth i Sam Gallagher fanteisio ar ei daldra i rwydo oddi ar bêl hir i’w gwneud hi’n 1-0.
Dyblodd Brereton-Diaz fantais ei dîm gyda foli cyn rhwydo eto i’w gwneud hi’n 3-0.
Roedd hi’n 4-0 pan sgoriodd Tyrhys Dolan, ond tarodd yr Adar Gleision yn ôl drwy Sean Morrison â’i ben.
Ond fe wnaeth Blackburn gau pen y mwdwl ar brynhawn siomedig i’r ymwelwyr gyda chic o’r smotyn ar ôl i’r golwr Dillon Phillips lorio Reda Khadra, a Brereton-Diaz yn sgorio hatric cynta’i yrfa.
‘Methu chwalu’
“Dechreuon ni’r gêm yn dda am yr 20-25 munud cyntaf, pryd bynnag wnaethon nhw sgorio,” meddai Mick McCarthy.
“Roedd camsefyll cyn y gôl ond mae hynny’n digwydd yn y gêm a’r hyn na allwn ni ei wneud yw chwalu fel y gwnaethon ni.
“Rhaid i chi ddal ati a sicrhau nad ydych chi’n ildio eto, wnaethon ni, ac wedyn daeth y drydedd gôl ar drothwy’r egwyl ac mae’r gêm bron iawn â rhedeg i ffwrdd oddi wrthym ni.
“Fe wnes i newidiadau hanner amser, roedd rhaid i fi wneud rhywbeth, ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi cael ymateb.
“Yn anffodus, wrth wneud hynny, aethon ni’n ‘gung-ho’ gan adael ein hunain yn agored led y pen, ac fe gawson ni ein dal allan.”