Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn cyfaddef nad oedd y fuddugoliaeth o 1-0 dros Huddersfield mor gyfforddus ag y dylai fod wedi bod.

Dyma’r tro cyntaf i’r Elyrch ennill ar eu tomen eu hunain y tymor hwn, wrth i gôl Joel Piroe wahanu’r timau yn Stadiwm Swansea.com.

Roedd yr Elyrch wedi cael tair gêm gyfartal ac wedi colli un yn eu pedair gêm flaenorol yn y Bencampwriaeth, ond fe wnaethon nhw lwyddo i fanteisio ar eu perfformiad am unwaith, wrth i Huddersfield golli am y trydydd tro mewn pedair gêm.

Mae’r canlyniad yn gweld yr Elyrch yn codi i’r ail safle ar bymtheg yn y tabl.

Daeth rhagor o gyfleoedd i’r tîm cartref, wrth i Paterson ddod yn agos dair munud wedi’r gôl wrth ergydio’n llydan ar ôl cipio’r meddiant.

Aeth Piroe ac Olivier Ntcham yn agos gydag ergydion eraill yn fuan wedyn, cyn i Huddersfield ymosod drwy Danel Sinani ond aeth yr Elyrch i fyny’r cae eto i roi cyfle i Flynn Downes.

Rhwydodd yr eilydd Liam Cullen yn hwyr yn y gêm ond penderfynodd y dyfarnwr cynorthwyol ei fod e’n camsefyll.

Mae’r Elyrch wedi cadw pum llechen lân mewn naw gêm erbyn hyn.

‘Tyndra’

“Roedd mwy o dyndra nag y dylai fod wedi bod yn yr ail hanner,” meddai Russell Martin.

“Dw i’n credu bod yr hanner cynta’n rhagorol – peth o’r chwarae, y dwyster oedd gyda ni wrth chwarae, y ffordd wnaethon ni wasgu, faint o weithiau enillon ni’r bêl yn uchel i fyny’r cae.

“Rydyn ni wedi chwarae yn erbyn tîm sy’n wych ac sydd wedi’u cyflyru i chwarae yn y ffordd yma – wnaeth eu hegni ddim gostwng ond fe wnaeth ein hegni ni rywfaint.

“Dw i’n credu mai dyna’r prif wahniaeth rhwng y ddau dîm.

“Ond dylen ni fod wedi sgorio mwy o goliau yn yr hanner cyntaf a gwneud yr ail hanner lawer yn haws.

“Rydyn ni wedi cyfyngu tîm da iawn fel nad oedd ganddyn nhw’r un ergyd ar y gôl.

“Mae’r chwaraewyr wedi gwneud hynny drwy ddyheu ac ymdrechu.

“Dylen ni fod wedi rheoli mwy yn yr ail hanner ond mae hynny’n dod.”