Trwy gyd-ddigwyddiad, gwrthwynebwyr diwethaf Huddersfield oedd Nottingham Forest, y tîm sydd newydd benodi Steve Cooper yn rheolwr. Roedd ymateb cymysg i benodiad cyn-reolwr yr Elyrch, ac fe fydd gan y Cymro gryn dipyn o waith i’w wneud i wyrdroi sefyllfa’r tîm oedd ar waelod y Bencampwriaeth cyn i Derby golli pwyntiau. Ond mae’r garfan yn un ifanc ac, fel y gwelson ni yma dros y ddau dymor diwetha’, mae e’n sicr yn gwybod sut i ddatblygu’r to iau ymhlith chwaraewyr mwy profiadol. Pob lwc iddo fe.

Digon cymysg fu canlyniadau diweddar Huddersfield yn y gynghrair wrth ennill dwy, yn erbyn Reading a Blackpool, a cholli dwy, yn erbyn Stoke a Forest. Ond maen nhw wedi llwyddo i gipio cyfanswm o 13 o bwyntiau mewn wyth gêm i’w rhoi nhw’n seithfed yn y tabl, un safle islaw’r safleoedd ail gyfle, wrth iddyn nhw deithio i Stadiwm Swansea.com heddiw (dydd Sadwrn, Medi 25).

Mae canlyniadau’r Elyrch, ar y llaw arall, wedi bod yn ddigon cyson wrth golli yn erbyn Preston cyn cael tair gêm gyfartal – dwy ddi-sgôr yn erbyn Hull a Millwall, a 3-3 yn erbyn Luton ddydd Sadwrn diwetha’. Am gêm gyffrous o ddau hanner oedd honno hefyd!

Mae’n siŵr bod y rhan fwya’ oedd yn gwylio’r gêm yn erbyn Luton yn teimlo ei bod hi ar ben ar yr Elyrch erbyn yr egwyl, ond ryswut, ar ôl newidiadau ar yr egwyl, fe ddangosodd tîm Russell Martin gryn gymeriad i daro’n ôl o 3-0 i gipio’r pwynt. Dyna’r math o gymeriad sy’n cynnal timau mewn adegau anodd ac fe fydd ei angen dipyn ar y tîm wrth iddyn nhw barhau i ddod i’r arfer â’r dull newydd o chwarae. Rhaid canmol bwriad Martin wrth geisio dychwelyd i “ffordd Abertawe” ond mae’n debyg y bydd angen digon o amynedd arnon ni wrth wylio’r gemau cyn i’r cyfan ddechrau llifo.

Mae ‘na ddywediad yn Abertawe bellach nad oes parti heb Piroe, ac roedd hynny’n sicr yn wir yn Luton, er mai un arall o’r wynebau newydd, Olivier Ntcham, ddaliodd y sylw gyda chwip o gôl ar ôl creu’r gyntaf i Jamie Paterson. Gôl Piroe ar ôl bron i 92 munud gipiodd y pwynt yn pen draw. Mae’n ymddangos y bydd rhaid i’r chwaraewyr hyn danio’n gyson a bod angen cryfhau’r amddiffyn hefyd os yw’r Elyrch am greu argraff eto y tymor hwn ac efelychu llwyddiant timau Steve Cooper wrth gyrraedd y gemau ail gyfle dros y ddau dymor diwethaf. Mae’r dyddiau hynny’n teimlo’n bell i ffwrdd ar hyn o bryd.

Am y tro, mae gan yr Elyrch dair gêm cyn y ffenest ryngwladol nesa’, a bydd cipio cymaint o bwyntiau â phosib yn bwysig yn eu datblygiad fel tîm a’u gobeithion am weddill y tymor. Dim ond Huddersfield, Derby a Fulham sydd i ddod cyn y gêm fawr yn erbyn Caerdydd ar Hydref 17. A bydd Russell Martin yn sicr eisiau i’w dîm fod wedi cyrraedd eu hanterth erbyn hynny.

  • Cyhoeddwyd gyntaf yn rhaglen swyddogol yr Elyrch cyn gêm Abertawe yn erbyn Huddersfield ddydd Sadwrn, Medi 25.