Mae Len Ashurst, cyn-reolwr timau pêl-droed Caerdydd a Chasnewydd, wedi marw’n 82 oed.

Yn enedigol o Lerpwl, fe fu’n rheoli yng Nghymru rhwng 1978 a 1991.

Cafodd ei benodi’n rheolwr yr Alltudion yn 1978 gan aros yno tan 1982, sy’n cael ei ystyried yn gyfnod mwyaf llwyddiannus y clwb.

Treuliodd e ddau gyfnod wrth y llyw ym Mharc Ninian, rhwng 1982 a 1984 ac eto rhwng 1989 a 1991.

Enillodd e ddyrchafiad gyda’r ddau glwb, ac fe enillodd e Gwpan Cymru gyda Chasnewydd cyn eu harwain i rownd wyth olaf Cwpan Enillwyr Cwpan Ewrop.

Chwaraeodd e i glybiau Hartlepool a Sunderland mewn gyrfa oedd wedi para 19 mlynedd ar y cae, gan chwarae mwy na 400 o weithiau i Sunderland.

Aeth yn ei flaen i reoli Hartlepool, Gillingham, Sheffield Wednesday, Sunderland, Al Wakrah yn Qatar, Pahang ym Malaysia a Weymouth.

Mae Caerdydd a Chasnewydd wedi talu teyrnged i Len Ashurst ar eu cyfryngau cymdeithasol.