Mae Clwb Pêl-droed Abertawe yn dechrau bywyd heb yr is-hyfforddwr Alan Tate, sydd wedi ymuno â Nottingham Forest.

Bydd yr Elyrch yn chwarae yn erbyn Huddersfield heddiw (dydd Sadwrn, Medi 25).

Bydd Steve Cooper, cyn-reolwr yr Elyrch, yn rheoli Forest mewn gêm am y tro cyntaf heddiw  wrth iddyn nhw herio Millwall, ac fe fydd Tate ar yr ystlys yn rhan o’i dîm hyfforddi newydd.

Hefyd yn ymuno â’r tîm hyfforddi mae Steve Rands, oedd yn ddadansoddwr yn ystod cyfnod y Cymro Cooper wrth y llyw yn Stadiwm Liberty.

Roedd Tate yn aelod o’r tîm hyfforddi wnaeth arwain yr Elyrch i gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth dros y ddau dymor diwethaf.

Ar ôl codi trwy rengoedd Manchester United, chwaraeodd Tate yng nghanol amddiffyn yr Elyrch dros 250 o weithiau, a hynny yn dilyn cyfnod ar fenthyg, gan helpu’r tîm i godi drwy’r adrannau.

Roedd e’n aelod o’r tîm arhosodd yn y Gynghrair Bêl-droed ar ôl curo Hull o 4-2 yn 2003, ac fe ymunodd yn barhaol y tymor canlynol.

Cymaint oedd ei ymroddiad i’r clwb nes iddo chwarae yn y gôl mewn dwy gêm, yn 2003 a 2008.

Roedd e’n aelod o dri thîm enillodd ddyrchafiad ac fe chwaraeodd e yn y tîm gododd Dlws y Gynghrair a Chwpan Capital One.

Bu’n gapten sawl gwaith yn absenoldeb Garry Monk, ac fe enillodd e wobr Chwaraewr y Flwyddyn yn 2009/10 cyn i’r Elyrch godi i’r Uwch Gynghrair y tymor canlynol.

Mae e’n un o dri chwaraewr, ynghyd â Leon Britton a Garry Monk, sydd wedi chwarae i’r Elyrch ym mhob adran.

Roedd e’n gapten ar y tîm yn eu gêm gyntaf yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Manchester City yn 2011.

Aeth yn ei flaen i chwarae i dimau Leeds, Aberdeen a Crewe Alexandra.

Dychwelodd e i Stadiwm Liberty yn 2016 i hyfforddi’r Academi, ac fe gafodd ei benodi’n is-hyfforddwr gan Steve Cooper yn 2019.

Yn dilyn ymadawiad Cooper, cafodd ei benodi’n rheolwr dros dro cyn i Russell Martin gael ei benodi, ond fe wnaeth e dderbyn swydd i fod yn gyfrifol am y chwaraewyr sydd allan ar fenthyg o’r clwb ddyddiau cyn derbyn y swydd gyda Nottingham Forest.

Yn ôl yr Elyrch, fe wnaeth Tate roi gwybod i’r clwb ei fod e’n dymuno gadael er mwyn ymuno â Steve Cooper pan gafodd ei benodi, ac fe wnaethon nhw dderbyn ei ymddiswyddiad.