Fe fydd Mark Drakeford yn dweud y gall Llafur Cymru a changhennau’r blaid sydd mewn grym ledled y Deyrnas Unedig ysbrydoli’r blaid ar lefel Brydeinig.
Bydd prif weinidog Cymru ymhlith y siaradwyr yng nghynadledd y blaid yn Brighton ddydd Llun (Medi 27), ac mae disgwyl iddo ganu clodydd Llafur Cymru a thynnu sylw at eu llwyddiannau fel plaid lywodraeth dros gyfnod o 22 o flynyddoedd ers sefydlu’r Senedd.
Dyma’r tro cyntaf i’r blaid ymgynnull ers i Lafur Cymru efelychu eu canlyniadau gorau yn y Senedd fis Mai, gan ennill etholiad Comisiynydd Heddlu’r Gogledd am y tro cyntaf, wrth i Andy Dunbobbin olynu Arfon Jones.
‘Gwahaniaeth bob dydd’
Mae disgwyl i Mark Drakeford ddweud, “Mae’r gynhadledd hon yn gyfle i ni atgoffa’n hunain, er ein bod ni allan o lywodraeth yn San Steffan, fod Llafur mewn grym, gan wneud gwahaniaeth all neb ond Llafur ei wneud, bob dydd, mewn llefydd a chymunedau ledled Prydain.
“Pan fo plaid wleidyddol wedi bod allan o rym, ar lefel y Deyrnas Unedig, am gyfnod estynedig o amser, yna mae’r angen i hunanymholi yn amlwg ac yn angenrheidiol.
“Mae’n iawn ein bod ni’n edrych yn galed ar yr hyn y gallwn ac sy’n rhaid i ni ei wneud i ennill grym eto yn San Steffan.
“Mae yna demtasiwn i edrych ar y byd trwy delesgôp San Steffan yn unig a gofyn: ‘Beth aeth o’i le?’
“Ond dylem edrych ar lwyddiannau niferus Llafur ledled Lloegr, yr Alban a Chymru a deall beth mae hynny’n ei ddweud wrthym am sut y gall Llafur ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
“Yn y straeon hynny am lwyddiant y cawn ateb grymus i un o’r heriau mwyaf anodd mae pob gwrthblaid yn eu hwynebu – hyd yn oed os yw ein polisïau’n boblogaidd, sut all pleidleiswyr fod yn hyderus y gall y blaid roi’r syniadau hynny ar waith?
“Yr ateb yw: oherwydd ein bod ni eisoes yn gwneud hynny ac yn gwneud hynny ar raddfa fawr mewn rhannau helaeth o’r Deyrnas Unedig.
“Mewn seneddau, neuaddau tref a swyddfeydd meiri ledled y wlad.
“O Fanceinion i Rondda Cynon Taf, o Dagenham i Abertawe – ledled y wlad, mae Llafur mewn grym – gan sefyll i fyny dros unigolion a chymunedau ac yn adeiladu gwasanaethau cyhoeddus arloesol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”